Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gair yn tarddu o der a wyn (gwydn), ac yn golygu lle gwydn, gwyllt, a diffaeth. Ond barna y Parch. D. Silfan Evans, yn ei Eiriadur, fod y gair yn tarddu o derw, a bod derwin yn golygu yn ansoddair o derw; a dyfyna engreifftiau o hen ysgrifau a llyfrau Cymreig i ddangos hyn, megis: barilau derwin—oaken barrels; estyll derwin—planks, a Brynderwin bryn wedi ei orchuddio a choed derw—oak hill. Dyma yr ystyr a geir i'r gair hefyd yn Ngeirlyfr Dr. W. Richards, o Lynn Credwn mai yr ystyr olaf sydd yn gywir. A pha le y ceir awdurdod uwch na Silfan Evans? Feallai i'r bryn bychan sydd yn yr ardal a elwir yn awr yn Foelderwin, ac a elwid gynt yn Frynderwin, fod yn orchuddiedig er's amseroedd pell yn ol gan goed derw, ac iddo oblegid hyny gael ei alw yn Frynderwin. Feallai hefyd i'r rhan hono o'r bwlchmawr a elwir yn Fwlchderwin gael ei alw felly am yr un rheswm, sef am ei fod yn orchuddiedig gan goed derw, neu ynte i'r bwlch gael ei enw oddiwrth y bryn sydd yn cyffwrdd âg ef. Mae yn amlwg fod yr enw Brynderwin o darddiad boreuol iawn, ac feallai Bwlchderwin yr un modd. Mor foreu ag amser y Tywysog Llewelyn (nis gwyddom pa un o'r ddau Lewelyn ydoedd, pa un ai Llewelyn ap Iorwerth, neu Llewelyn Fawr; ynte Llewelyn ap Griffith, neu Llewelyn ein Llyw Olaf), sef yn y ddeuddegfed ganrif neu y drydedd ganrif ar ddeg, crybwyllir am yr enw Brynderwin. Mae awdl ar gael gan un a eilw ei hun yn "Llygad Gwr," ar y tywysog hwnw. A gwneir y cyfeiriad canlynol at Frynderwin ynddi:

"Breisclen Môn, mwynfawr Wyndodydd,
Brynderwin clô byddin clodrydd,
Ni bu edifar i dydd y cyrchawdd,
Cyrch eofn essillydd."


Mae yn debyg felly fod un o fyddinoedd y tywysog enwog hwnw wedi bod yn gwersyllu ar Foelderwin, a bod y lle yn cael edrych arno fel gwersyllfa gadarn a chref i wrthsefyll y gelynion.

Ymhen oddeutu pum' can' mlynedd ar ol yr hanes uchod, yr ydym yn cael rhywbeth pur wahanol i'r hyn y cyfeiriwyd ato wedi ymsefydlu a gwersyllu ar ochr Foelderwin, mewn tŷ o'r un enw. Yn lle bod tywysog milwrol wedi gosod ei fyddin yma, gyda'r amcan o ddinystrio cyrff dynion, yr ydym yn cael Tywysog Tangnefedd yn gosod eglwys fechan yn y lle i ymosod ar dywyllwch, anwybodaeth, ac annuwioldeb yr