Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ardal. Tybir fod yma eglwys fechan mor foreu a'r flwyddyn 1747, os nad cyn hyny. Yn mis Mehefin yn y flwyddyn hono, yr oedd un o'r rhai enwocaf o'r cynghorwyr cyntaf, sef William Richard Llwyd, o Langeitho, yn pregethu yn Foelderwin, ac fel hyn y rhydd yr hanes wrth ysgrifenu ar yr 20fed o'r mis hwnw at Howel Harris:—"Dydd Gwener, ar fy nychweliad o Leyn, yr oedd genyf gyhoeddiad rhwng Caernarfon a Phwllheli. Mi a bregethais yno i nifer o eneidiau tlodion ac anwybodus, a chefais odfa felus iawn. Hyderaf fod yr Arglwydd wedi agoryd drws yn y lle hwnw [Helygirion]. Gofynodd un o'r brodyr am dy arall i bregethu ynddo rhwng y lle yma a Phenmorfa, ond gomeddwyd ef. [Credwn mai Derwinucha oedd y lle hwn]. Ond cawsom le mewn bwthyn bychan yn agos i'r tŷ hwnw. Pregethais yno [sef Foelderwin], i tua dwsin o bobl, a chawsom odfa hapus iawn. Felly dychwelais drachefn i'r Bala, ac arosais yno hyd ddydd Llun; ac yr oedd yn ogoneddus iawn yno." Mae yn amlwg fod arddeliad neillduol ar odfeuon William Richard Llwyd y pryd hwn. Dywed eu bod yn "felus, yn hapus, a gogoneddus." A diau fod y geiriau hyn yn ddarluniad cywir o'r odfeuon; oblegid yr oedd efe yn un o'r goreuon o'r cynghorwyr. Cyfansoddodd Williams, Pantycelyn, farwnad ragorol iddo, yr hon sydd yn dangos ei fod o ysbryd cynes a gwresog anarferol. Dyma ddau benill o'r farwnad:—

"Gwelais ef ar oriau hyfryd
Yn moreuddydd haf ei fywyd,
Yn molianu, yn proffwydo,
Yn flaena' o'r werin yn Llangeitho;
Chwys fel nentydd clir yn llifo,
Tarth trwy ei wisgoedd tew yn suo,
Cariad pur, gwerthfawr clir, yn gwir enynu,
Nes oedd corff yn gorfod helpu
Enaid allan i'w fynegu."

"Mi fu'm unwaith wrth ei wely,
'Roedd ei wledd, fel gwleddoedd gwindy,
A'i holl eiriau'n tarddu'n gyson,
O grediniaeth heb ddim ofon:
Gwyr yn twymo wrth y siarad,
Merched hwythau'n wylo cariad;
Minau f'hun, waelaf ddyn, gwanaidd yn gwenu
Ac yn hyfryd eiddigeddu,
Weled plentyn arna' i'n blaenu."


Mor ddyddorol ydyw edrych trwy niwl cant a haner o flynyddoedd ar yr hen bregethwr gwresog hwn yn pregethu yn y