bwthyn bychan' ar ochr Foelderwin i tua dwsin o bobl; ac yn enwedig wrth feddwl iddo gael 'odfa hapus iawn.' Fel ffrwyth yr odfa hon ac ambell i odfa arall, oblegid yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr a phrin iawn yn y dyddiau hyny, yr ydym yn cael arwyddion bywyd yn fuan yn yr eglwys fechan oedd yn y lle hwn, ac un o'r arwyddion hyny oedd fod ysbryd cenhadol yn fyw yn y lle. Cariodd un o'r aelodau y tân nefol yn fuan iawn i'r ardal agosaf, sef ardal Brynengan. Fel hyn y mae y diweddar Mr. Robert Roberts, Hendre Cenin, yn adrodd yr hanes:—"Daeth yr hedyn yma o Foelderwin yn nghalon hen ferch o'r enw Catrin ach Rhisiart. Yr oedd teulu wedi dyfod i'r ardal hon (i Hendre Cenin) o Maesllêch, yn ardal Cwmystradllyn. Aeth un o'r bechgyn yn sâl o glefyd trwm. Teimlodd Catrin awydd i'w rybuddio o'r perygl o farw yn annuwiol. Gwellhaodd John Morris oddiwrth y clefyd, ond gadawodd y cyngor effaith arno ar hyd ei oes. A'r John Morris yma (yr hwn oedd ewythr frawd ei daid i Robert Roberts), oedd y crefyddwr cyntaf yn yr ardal. "Mor syml, ac eto mor ddwyfol, y llanwyd rhanau helaeth o siroedd Caernarfon a Meirionydd ag efengyl Crist. Yr hen ferch syml Catrin ach Rhisiart yn myned a'r tân nefol i Frynengan; a'r ddwy wraig, Lowri Williams, Pandy, Chwilog, a Jane Griffith, Erwbach, Dolbenmaen, drachefn yn ei gario oddiyno, ac yn ei wasgar yn ardaloedd Maentwrog a Dolgellau, hyd nes o Jerusalem Ffestiniog, ac o amgylch hyd Ilyricum Aberdyfi, y llanwyd holl Orllewin Meirionydd âg efengyl Crist. Credwn i droedigaeth John Morris, drwy offerynoliaeth Catrin ach Rhisiart gymeryd lle ymhen tua blwyddyn neu ddwy ar ol pregeth William Richard Llwyd.
Ffrwyth arall i'r bregeth hon, ac ambell i bregeth arall oedd yr awydd oedd yn yr ardal am addysg, a hono yn addysg grefyddol. Yn fuan ar ol hyn dechreuwyd cynal ysgolion cylchynol Griffith Jones, Llanddowror, yn yr ardal, a hyny gyda chysondeb mawr. Dechreuwyd eu cynal yn y plwyf yn fuan iawn. Yn y blynyddoedd 1750, 1751, a 1752 cynhelid hwy yn ngwaelod y plwyf, yn yr eglwys, ac felly gryn bellder, sef oddeutu pedair milldir oddiwrth, y fan lle y saif capel Bwlchderwin. Ond yn y blynyddoedd 1754 a 1755, cawn fod ysgol yn cael ei chynal yn ardal Bwlchderwin, a hyny yn Derwinucha, ac yr oedd nifer lled dda yn dyfod iddi, sef triugain. Cynhelid ysgol yn yr un lle hefyd yn y