Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y preswyliai y pryd hwnw wraig weddw o'r enw Ellen Roberts, yr hon oedd yn nain o du ei fam i'r diweddar William Parry, Nantcall-isa. Dywedir ei bod yn hynod o symudol am gryn amser ar y dechreu, ac fel colomen Noah ni chai orphwysfa i wadn ei throed. Y Sabboth yma byddai yn y ty hwn, a'r Sabboth nesaf byddai mewn ty arall. Ymddengys y byddai yn cael ei chynal weithiau ar nos Sabboth, ac nid anfynych y byddai angen am oleuni ar yr achos; a'r ffordd i wneyd i fyny yr angen oedd, i bob un ddyfod a chanwyll gydag ef, a chanwyll frwyn fyddai hono. Ei phrif gefnogwyr ar y dechreu oeddynt, Robert Owen, Derwinucha, yr hwn a aeth ar ol hyny yn bregethwr; William Williams, Mur-y-forwyn; a Robert Parry, Penisa'rmynydd. Dywedir y bu Robert Parry dan fath o gerydd yn eglwys Brynengan am roddi lle i'r Ysgol Sul yn ei dy. Bu raid iddo droi yr ysgol o'i dy, neu ynte golli ei aelodaeth. Y canlyniad a fu i'r ysgol gael ei throi o Benisa'r mynydd, ac nid oedd neb arall a'i derbyniai i dy. Ymddyrysodd yntau am ryw dymor, ac nid äi i'r cyfarfod eglwysig i Frynengan. Gresyn gweled yr hen grefyddwyr selog, cywir, a chynes, wedi camgymeryd y ffordd gymaint hefyd. Ac nid yn unig yr oedd gwr y ty dan gerydd ganddynt, ond byddai unrhyw aelod eglwysig a äi iddi dan gerydd hefyd. Dyma yr Ysgol Sul felly yn ardal Bwlchderwin wedi ei chlwyfo yn nhy ei charedigion; ac y mae yn gorwedd yn ei chlwyfau heb lygad yn tosturio wrthi. Ond nid hir y bu yn y cyflwr diymgeledd hwn. Daeth i feddwl rhai o'r hen grefyddwyr y dylasent wneyd rhyw ddarpariaeth ar gyfer yr ieuenctid. Wele, dau o honynt oedd yn myned ryw ddydd i Gapel Ucha, Clynog; ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan a'u gilydd am yr holl bethau, a bu, fel yr oeddynt hwy yn ymddiddan ac yn ymofyn a'u gilydd, iddynt droi yr ymddiddan at gyflwr ieuenctid yr ardal; canlyniad yr hyn fu, penderfynu ailgychwyn yr Ysgol Sabbothol yn y lle. A'r tro hwn ymunodd rhai o'r hen grefyddwyr gyda'r rhai oedd yn ei dwyn ymlaen o'r blaen, i'w hail-gychwyn eto. Ymysg eraill yr oedd yr hen frawd hynod y cyfeiriwyd ato o'r blaen, Thomas Robert, Tan-y-chwarel; Henry Williams, Ynyshwfa; a John Jones, Gyfelogucha. Yr oedd hyn, mae yn debyg rai blynyddoedd ar ol i'r ganrif bresenol ddechreu, ac yn fuan ar ol hyn daeth bywyd newydd i'r ysgol hon fel i Ysgolion Sabbothol eraill y wlad, drwy sefydliad "Sasiynau y Plant." Dechreuwyd cynal y cyfarfodydd bendigedig hyn yn y flwyddyn 1808. Byddai