Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gwnaed yr un peth y flwyddyn flaenorol. Y gwr a fu gyda Thomas Owen y flwyddyn flaenorol oedd John Prydderch o Fon. Mae hyn yn dangos fod ein tadau oedd yn arweinwyr y Gymdeithasfa y pryd hwn yn gwir-ofalu am yr Ysgol Sab bothol, a diau i ddaioni mawr ddyfod o'r ymweliadau hyn.

Yn y flwyddyn 1832, yr oedd diwygiad gwresog yn Mwlchderwin, fel mewn rhanau eraill yn y wlad. Clywsom y diweddar Mr. William Griffith, Terfynau, yn dweyd ei fod wedi dyfod o Lanllyfni i gapel Bwlchderwin, pan yn fachgen bychan oddeutu deg oed, gyda'i dad, i weled y diwygiad un prydnawn Sabboth, a bod John Jones, Tremadog, yn pregethu. Yr oedd hyn yn ngwanwyn y flwyddyn 1832, ac yn nghanol poethder y diwygiad. Dywedai fod yr olygfa a welodd yn nrws y capel, wrth ddyfod allan, yn fyw yn ei feddwl ar hyd ei oes,—pedwar bachgen pen-goch, pen-noeth, yn gorfoleddu ac yn neidio yn nghourt y capel. Cafodd yr eglwys fechan a gwanaidd yn y lle adnewyddiad mawr trwy y diwygiad hwn. Mewn cofnodau a ysgrifenwyd gan y gwr y cyfeiriwyd ato uchod, cawn y nodiadau canlynol:—"Nid oedd yn eglwys Bwlchderwin yn nechreu Chwefror. 1832, ond deg-ar-hugain o aelodau, ond erbyn dechreu Mai yr oedd yma ychwaneg na phedwar ugain. Pregethai y Parch. Daniel Jones, Ebrill 29ain, 1832, ar Daniel v. 32. Gweinyddai yr ordinhad o fedydd ar ddau o blant, a gweinyddai Swper yr Arglwydd. Dywedir na welwyd erioed y fath deimlad yn Mwlchderwin a'r adeg hon. Yr oedd y rhai oedd yn cyfranogi o'r newydd gymaint eu nifer a'r hen aelodau." Yn yr adeg hon dewiswyd Humphrey Prichard yn flaenor, pan nad oedd ond un-ar-hugain oed, yr hyn sydd yn dangos ei fod yn ddyn ieuanc nodedig iawn, gan na byddai yr hen bobl byth yn dewis neb yn flaenor mewn oedran mor gynar heb fod rhywbeth nodedig iawn ynddo. Ac y mae yn hawdd gweled oddiwrth y llyfrau cofnodau pregethau, &c., a adawodd efe ar ei ol ei fod yn wr ieuanc pell o flaen y cyffredin. Fel hyn y mae yn rhoddi hanes Cyfarfod Ysgol a gynhaliwyd yma Gorphenaf 8fed, 1832:—" Am ddeg, cateceisodd Moses Jones ysgol Taiduon o'r Hyfforddwr viii., gyda blas a llewyrch neillduol; adroddwyd y mater gyda phwyll, sobrwydd, a difrifwch mawr; a phregethodd John Jones, Tremadog, ar Deuteronomium xxxii. 10. Am ddau, cateceisiodd Moses Jones ysgol Bwlchderwin, o'r Hyfforddwr ix. Yr oedd agwedd sobr, siriol, doredig ar yr adroddwyr a'r gwrandawyr