Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drwy yr holl gyfarfod. A diau mai yr Ysbryd Glan a argraffodd y cyfryw agwedd addas i Dduw a'i Air ar y dorf gynulledig. Diolch i Dduw am arwydd o'i foddlonrwydd ar ein llafur gyda ieuenctid ein hardaloedd, a'i fod yn arddel y moddion hyn i'w hachub." Ymhen rhai blynyddoedd ar ol hyn, sef tua'r ff. 1846, cynhaliwyd yma Gyfarfod Ysgol arall effeithiol iawn, pan yr oedd John Jones yn holi y benod o'r Hyfforddwr ar ddydd y Farn. Mae cof byw iawn gan rai am y cyfarfod hwnw, er fod dros haner can' mlynedd er hyny.

Gan fod yr un gwr wedi cofnodi pregeth fythgofiadwy John Elias, yn Sasiwn Pwllheli, yr hon yr edrychir arni fel cychwyniad y diwygiad hwn, ni a hyderwn na ddigia y darllenydd wrthym am ei rhoddi i mewn yma, er nad yw yn hollol ar fater y benod hon. Credwn na bu dim o honi erioed o'r blaen mewn argraff. Traddodwyd hi am ddau o'r gloch y dydd olaf, sef dydd Gwener, Medi 16eg, 1831. Ei destyn oedd Salm lxviii. 1: "Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion. a ffoed ei gaseion o'i flaen ef." William Havard oedd yn pregethu o'i flaen. Yr oedd y bregeth hono fel daeargryn sydyn yn nghanol tawelwch mawr. Gellir dweyd yn briodol iawn am yr adeg hon,—"Y ddaear oedd yn eistedd ac yn llonydd," ond "wele, bu daeargryn mawr." Clywsom hen frawd hynod o Borthmadog—Hugh Owen 'Rhendy wrth ei wrth ei enw, yn dweyd am y bregeth hon,—"Mi bregethodd John Elias y pryd hwnw yn Sasiwn Pwllheli, nes yr oedd Sir Gaernarfon yn crynu drwyddi; a 'dydy hi byth wedi dyfod ati ei hun." Fel hyn yr ysgrifenwyd y bregeth wrth ei gwrando gan Humphrey Prichard:—"Mae rhai yn cyfrif yr adnod hon fel profwydoliaeth, ond tebygol mai gweddi ydyw wrth symud yr arch. Yr oedd yr arch yn gysgod o'r efengyl a'i rhagorfreintiau. Yn yr adnod hon sylwn ar dri pheth. I. Fod i Dduw a'i achos, elynion. II. Fod Duw weithiau megis yn eistedd, yn cysgu, ac fel gwr wedi synu, fel y meddylid fod y gelynion wedi gorchfygu, a llwyddo i ddifetha ei achos ef. III. Fod gan Dduw ei amser ei hun i gyfodi ac i drugarhau wrth Sion, ac i ddinystrio ei holl elynion. I. Fod i Dduw a'i achos, elynion. Mae gelynion Duw yn elynion ei achos, a holl elynion achos Crist yn elynion Crist ei hun, Cain, Ismael. Mae holl au-grefyddwyr y byd, a holl anghrefyddwyr y byd yn elynion Duw. II. Mae Duw weithiau megis yn cysgu, yn ymguddio, ac fel pererin yn y tir. Diben Duw yn hyn yw yn 1. I weled beth a wna ei

elynion wedi eu gollwng. 2, I weled beth a wna ei