Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bobl hebddo ef, ac fel y gwelont ei eisiau ef; ac hefyd fel y caffo enw iddo ei hunan am gyfodi. Wedi ymguddio yr oedd Duw pan erlidiwyd a phan y llosgwyd ei blant, gan eu holl erlidwyr a'u gelynion gynt. Pan lefodd y disgyblion yn yr ystorm, cyfododd Crist, a thawelodd y môr yn y fan. III. Mae gan Dduw ei amser i gyfodi ac i achub ei bobl. 1. Pan y mae ei elynion wedi myned yn hyf iawn, ac i ymffrostio, gan ei ddirmygu ef. 2. Fe gyfyd Duw pan lefo ei bobl arno mewn gwasgfa enaid a chyfyngder meddwl. 'Cyfodaf yn awr oherwydd uchenaid y tlodion.'

'Athrawiaeth I. Nis gall yr arch ddim heb Dduw gyda hi. Mae hyn i'w ganfod yn amlwg yn y Gair. Nid yr arch heb Dduw a drodd yr Iorddonen yn ol, a dynodd y caerau i lawr, &c., ond Duw gyda hi. Pan giliodd Duw, dacw yr arch i ddwylaw y gelynion; ond pan ddaeth Duw ati, wele, Dagon yn syrthio, y gelynion yn cael eu distrywio, ac Israel yn cael eu gwaredu. Gwell gan Dduw fyned ar ol ei arch i dir y Philistiaid, nag aros gyda hi ac offeiriaid godinebus yn ei dwyn.

'Athrawiaeth II. Mae Duw wedi cilio i raddau mawr o blith ei bobl yn y dyddiau hyn. Mae hyn yn amlwg ond ystyried pechodau rhyfygus,—cysgadrwydd a gwrthgiliad Cristionogion o bob enw, caledwch gwrandawyr yr efengyl,—prinder profiadau bywiog, a dynion agos at Dduw, ac yn wir, daearoldeb pregethwyr a bugeiliaid eglwys Dduw. Mae y pethau hyn yn profi fod Duw wedi cilio. 'Cyfoded Duw.'

'Athrawiaeth III. Dyledswydd pob duwiol,—holl eglwysi Duw, yw llefain yn daer,—ymbil yn anorchfygol wrth orsedd gras am i Dduw gyfodi, yn ngwyneb na allwn ddim hebddo ef. Ni bydd dim achub, nac adeiladu Sion, na darostwng ar elynion Duw a'i achos, nes y cyfodo efe. Duw a giliodd; ein pechodau a barodd; Duw sydd fel yn cysgu; Li a'i gyrodd draw ac a bechodd ei wyneb ymaith oddiwrthym. Ond pan gyfodo Duw, fe gyfyd ei weinidogion; pan gyfodo Duw, fe gyfyd ei eglwys; pan gyfodo Duw, fe gyfyd meirwon o'u beddau, fe achubir annuwiolion. O! gyfnewidiad mawr a fydd o flaen ei bresenoldeb ef. Gan fod addewid, dadleuwn hi wrth orsedd gras. Cyfoded Duw, Ti a gyfodi. Amen."

Hydref 6ed a'r 7ed, 1834, cynhaliwyd Cyfarfod Misol yn y lle, y cyntaf a fu yno erioed. Ac y mae Humphrey Prichard yn rhoddi ei hanes yn ei ddull dyddorol ei hun. "Daeth