Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

farw yn mlodau ei ddyddiau o'r darfodedigaeth." Ac fel hyn y dywedir yn y Drysorfa:—"Robert Owen, Derwyn-uchaf; boneddigaidd, croew, a chryno." Credwn fod y gair "prydferth," gan Robert Jones yn air cynwysfawr iawn. Yr oedd yn brydferth yn ei gorph, yn ei wisg, yn ei lawysgrif, yn nghyfansoddiad ei bregethau, yn ei ddull o'u traddodi, ac yn ei holl fywyd. Ac er nad oes gan Griffith Solomon ond tri gair i'w osod allan, mor gywir ac mor fyw ydyw y tri gair hyny,—" boneddigaidd, croew, a chryno." Mae yn amlwg fod Robert Owen yn wr ieuanc, "prydferth, boneddigaidd, a chryno," yn ei berson, yn ei fywyd, ac yn ei holl gysylltiadau; fel ysgolfeistr, ac fel pregethwr. A pha nodweddiad mwy dymunol allesid gael mewn dyn ieuanc? Mae y fath swyn i'r ysgrifenydd yn ei hanes, fel y mae wedi troi pob careg oedd yn ei gyraedd, er mwyn dyfod o hyd iddo. Acer na lwyddodd fel y dymunai, credwn y bydd yn dda gan y darllenydd gael hyny a gaed.

Ganwyd Robert Owen yn y flwyddyn 1769, yn Nerwinbach, amaethdy o fewn tua haner milldir i Brynkir Station. Enwau ei dad a'i fam oeddynt, Owen Probert, ac Ellin Ellis; ac aelodau o'r Eglwys Wladol a fuont ar hyd eu hoes. Eto byddai Owen Probert yn myned i wrando ar yr Ymneillduwyr, ar adegau. Dywedir fod brawd i Robert Owen, sef Ellis Owen, tad Mri. Robert ac Ellis Owen, Bwlchderwin, wedi bod yn llaw ei dad, pan oddeutu pedair oed, yn Nerwinucha, yn gwrando ar yr enwog Richard Tibbot, Llanbrynmair, yn pregethu. Yr oedd hyn tua'r flwyddyn 1775. Yr oedd ei fam, sef Ellin Ellis, yn tarddu o deulu a chryn hynodrwydd yn perthyn iddynt. Yr oedd yn gyfnither i John Edward, Ereiniog, wedi hyny o Blas-yn-Nghaerwys, pregethwr tra pharchus ymysg y Methodistiaid. Yr oedd tad Ellin Ellis, sef Ellis Powell, yn frawd i Edward Powell, tad John Edward. Mae yn amlwg fod y teulu hwn yn un lled hynod, ac ar rai cyfrifon o flaen i liaws teuluoedd y wlad. Yr oedd Edward Powell, y tad, a John Edward, y mab, yn feirdd o gryn fedrusrwydd a pharodrwydd; a thybir fod eraill o'r teulu yn meddu yr un ddawn. Dywedir mai prif ddifyrwch John Edward, hyd nes yr oedd oddeutu ugain oed, oedd darllen a chyfansoddi prydyddiaeth. Cyfansoddodd hefyd lawer o ganeuon; a dywedir ei fod ar ganol cyfansoddi "Interlude" pan y cafodd droedigaeth. Mae amryw rigymau o waith ei dad, Edward Powell, wedi dyfod i lawr i'n dyddiau