Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yr oedd Robert Owen yn un o'r fintai fendigedig a fu yn foddion i wneyd y gwaith mawr a bendithiol yma yn ein gwlad. A chredwn ei fod wedi bod yn y gwaith mor hir ac mor effeithiol a nemawr neb o'r gwŷr da hyny. Credwn ei fod yn un o'r rhai cyntaf a godwyd at y gwaith hwn; oblegid yr oedd o ddeunaw i ugain oed pan y dechreuodd Mr. Charles gyda'r gorchwyl bendithiol yma. A pharhaodd gyda hyn tra y parhaodd Mr. Charles i gadw ysgolion. Ac yn y diwedd syrthiodd yn aberth i'w ymroddiad a'i weithgarwch gyda'r gwaith. Achos ei farwolaeth oedd iddo ddioddef gormod o anwyd o'i draed yn yr ysgol; yr hyn a drodd yn ddarfodedigaeth arno, ac a derfynodd ei yrfa, Mehefin y 10fed, 1810, pan nad oedd ond 41 oed.

Mae ein dyled fel gwlad i goffadwriaeth y gwyr da hyny, a fuont yn ysgolfeistriaid yn yr adeg dywyll yma, ac a fuont yn foddion i beri i oleuni wawrio arni, yn ddifesur. Mae sir Gaernarfon yn arbenig felly. Gallem enwi amryw a wnaethant waith rhagorol gyda hyn, megis,—Robert Jones, Rhoslan; John Roberts, Llangwm; Evan Richardson, Caernarfon; Robert Roberts, Clynog: a Michael Roberts, Pwllheli. A rhaid edrych ar Robert Owen, Derwin-ucha, ymysg y fintai anrhydeddus hon. Pa faint yw dyled trefi Caernarfon a Phwllheli, i goffadwriaeth Evan Richardson, a Michael Roberts? Pa faint yw dyled ardaloedd Brynengan, Pentreucha, Llangybi, Beddgelert, Llanaelhaiarn, a Chlynog, i goffadwriaeth, Robert Jones, John Roberts, a Robert Roberts? A'r un modd, gellir gofyn, pa faint yw dyled ardaloedd Bontfechan, Rhydyclafdy, a Boduan i goffadwrieth Robert Owen?

Credwn na bu yn pregethu yn hir; oddeutu deng mlynedd, feallai. Mae genym restr o'r pregethwyr a fu yn pregethu yn Llanllyfni o'r flwyddyn 1791, hyd y flwyddyn 1813, yn nghyd a'u testynau. A'r tro cyntaf y bu Robert Owen yn pregethu yno oedd, Chwefror 14eg, 1802. Gan fod Llanllyfni yn agos i'w gartref, nid ydyw yn debyg y buasai yn pregethu yn hir heb fyned yno, yn enwedig mewn adeg felly, pan yr oedd cymaint o deithio. Ond y mae yn amlwg ei fod wedi llafurio yn galed yn ystod ei dymor byr. Mae yn meddiant ei deulu driugain o bregethau o'i eiddo, y rhai sydd yn foddion i daflu llawer o oleuni ar ei hanes a'i nodweddiad. Maent ymron oll wedi eu hysgrifenu yn dra chyflawn, ac yn arddangos llawer o allu, yn gystal a llafur. Un o'r pethau sydd yn ein taro gyntaf o bob peth wrth eu darllen ydyw yr