Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn a ddywedir am dano gan Robert Jones, Rhoslan, sef ei fod "wedi ei egwyddori yn fanwl yn y wir athrawiaeth." Mae ynddynt bregethau ar rai o brif athrawiaethau crefydd, megis y Drindod, Natur a Phriodoliaethau Duw, Cwymp Dyn, Swyddau Crist, &c. Yn wir, nid oes braidd yr un o brif athrawiaethau crefydd, nad oes ganddo bregeth arni, ac y mae yn dangos medrusrwydd mawr i ymdrin a phob athrawiaeth. Mae yn wir fod llawer o gynwys y pregethau i'w gael yn Nghorff Duwinyddiaeth Dr. Lewis; ond yr oedd y pregethwr er hyny wedi ei wneyd, i raddau helaeth, yn eiddo iddo ei hun. Mae y pregethau hyn hefyd yn taflu goleuni i ryw raddau ar chwaeth gwrandawyr yr oes hono. Maent yn gredyd i'r gwrandawyr yn gystal a'r pregethwr. Maent yn dangos y gallent ymborthi ar fwyd cryf ac iach. Peth arall a ddywedir gan Robert Jones am dano, sydd i'w weled yn y pregethau hyn ydyw, fod ei "ddoniau i bregethu yn ysgrythyrol." Mae cyflawnder o ysgrythyrau yn ei bregethau. Mae ynddynt lawer o gyfeiriadau heblaw y rhai a ddefnyddir yn y pregethau. Maent yn dangos llawer o hyddysgrwydd yn yr ysgrythyrau hefyd, mewn esiamplau a chymhariaethau ysgrythyrol. Maent hefyd yn dangos ei fod yn un o wybodaeth gyffredinol helaeth. Gwelir hefyd lawer o engreifftiau ei fod yn hyddysg yn yr iaith Saesneg. Dengys rhai o'r pregethau hefyd ei fod yn meddu ar ddychymyg cryf a ffrwythlawn, ac ysbryd cynes a gwresog. Er mwyn i'r darllenydd gael barnu drosto ei hun, ni a roddwn rai engreifftiau o honynt yn y benod nesaf. Mae yr holl bregethau wedi eu hysgrifenu mewn llawysgrif eglur a phrydferth.

Mae yr argraff canlynol ar ei fedd ef a'i chwaer, yn mynwent eglwys hynafol Clynog:

Coffadwriaeth am Robert Owen,
Derwyn-uchaf, pregethwr yr
efengyl ym mhlith y
Methodistiaid, yr hwn a fu farw
Mehefin 10, yn y flwyddyn 1810.
Ei oedran 41.
Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig.
Hefyd am
Eleanor Owen, chwaer yr enwedig
Robert Owen, yr hon a fu farw Tachwedd 13,
1822, yn 41 oed.