PENOD X.
PREGETHWYR A GODODD YN YR ARDAL
ROBERT OWEN, DERWIN-UCHA,—(PARHAD).
Dwy bregeth o'i eiddo, ynghyd a lloffion o bregethau eraill.
Pregeth I.
CRIST YN BOB PETH, AC YMНОВ РЕТН.
"Ond Crist sydd bob peth, ac yn mhob peth."—COL. I. 11.
NID yw'r geiriau rhai'n yn addas i neb ond i'r un y cyfeirir ato yma gan Paul. Maent yn rhy fawr i neb arall i ateb iddynt ond Crist yn unig: maent yn rhy fawr i ddyn nac angel eu llanw. Un mawr am ddyrchafu Crist oedd Paul. Mae ei holl epistolau wedi eu britho ag enw Crist, fel pe baech yn edrych ar yr awyr ar noson ddisglaer yn frith o ser disglaer. Felly y mae efe yn y benod hon yn dyrchafu ei enw ef yn fawr. Yn y rhan flaenaf o'r adnod y mae yn curo i lawr bob enwau eraill, pa ardderchowgrwydd bynag oedd yn perthyn iddynt, ac yn niwedd yr adnod yn gosod Crist i fyny oll yn oll. Er y gall fod amryw bethau o werth mawr yn ngolwg dynion, megis breintiau Iuddew yn llawer mwy na chenedlddyn, urddas Groegwr uwchlaw barbariad; llawer o freintiau sydd yn perthyn i free-man chwaithach caethwas, eto gyda Duw nid yw yr un o honynt ond dim. Yr un sydd a mwya' o'r dyn newydd wedi ei wisgo am dano y mae Duw yn edrych mwya' arno. Nid ydyw pawb eraill, er maint fyddo eu henwau hwy yn y byd, ond cyphers gyda Duw. "Ond Crist sydd bob peth." Nid hyperbole (gorwireb) yw'r ymadrodd yma, sef gosod peth mawr allan drwy gyffelybiaeth o beth mwy; nage, y mae yn ateb i'r gair ymhob ystyriaeth. Ac nid yw'r ymadrodd i'w gymeryd yn ol iaith y byd am bethau. Mi feddyliwn mai'n ol iaith y byd y mae Solomon yn dywedyd yn Llyfr y Pregethwr: "Gwin a lawenycha y rhai byw; ond arian sydd yn ateb i bob peth," Preg. x. 19; yn ateb i bob peth o bethau y byd yma y mae efe yn ei feddwl. Ond pan eir a hwy i'w cymharu â phethau ysbrydol, pethau llygredig y maent yn cael eu galw: "Nithycia cyfoeth yn nydd digofaint." Ond y mae efe mewn pethau ysbrydol