yn bob peth,—y mae pob cyflawnder ynddo ef,—cyflawnder Duwdod a chyflawnder dyndod. Y mae yn bob peth a all Duw ei ofyn mewn ffordd o lawn dros bechadur. Y mae'n bob peth a all pechadur ei ofyn tuag at ei berffeithiad. Nid rhaid iddo fyned i ymofyn am ddim i'r un man arall. Y mae efe yn ateb ac yn rhagori ar bawb ag oedd o ran eu personau a'u swyddau yn ei gysgodi ef o dan y gyfraith. Yr oedd Abraham yn cael ei alw, cyfaill Duw; Jacob yn cael ei alw, tywysog galluog gyda Duw; Moses, ei was ffyddlon ef. "Ond Crist sydd bob peth, ac ymhob peth." Mae amrywiol bethau eraill yn dda yn eu lle mewn amrywiol achosion. Mae'r haul yn dda i oleuo, ond nid yw'n bob peth. Nid yw'n ffynon i olchi, nac yn ymborth i'r newynog chwaith; "ond Crist sydd bob peth." Mae'r môr yn dda i olchi, ac y mae digon o ddwfr ynddo, ond nid yw'n bob peth; "ond y mae Crist yn bob peth." Crist sydd Alpha ac Omega i'r Cristion.
Mae rhyw deitlau cyffelyb i hyn yn cael eu rhoddi i'r Pab er mawr ddiystyrwch i'r Crist yma. sydd oll yn oll. Gosodir ef allan yma fel pe b'ai efe heb fod yn ddigon o Fugail, rhaid iddo gael help y Pab; fel pe b'ai efe heb fod yn ddigon o Eiriolwr, rhaid iddo gael help Paul, Pedr, Mair, &c. Ond nid rhaid iddo wrth help neb, neb. "Y mae efe yn bob peth."
"Ac ymhob peth." Gan ei fod ef yn bob peth, mae'n rhaid ei gael ef ymhob peth gan y Cristion hefyd, cyn y bydd. dim yn iawn ganddo ef, nac yn gymeradwy gan Dduw ychwaith. Y mae efe yn holl waith iachawdwriaeth o'r dechreu i'r diwedd. Pe baem ond edrych ar y gadwyn fawr sydd yn cyraedd o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb, y mae efe i'w gael ymhob link. Efe yw sylfaen etholedigaeth, Eph. i. 4. Efe yw gwerth ein prynedigaeth, 1 Pedr i. 18, 19. Ynddo ef yr adgenhedlwyd ni, Eph. ii. 10. Efe yw dechreuwr a pherffeithiwr ein hiachawdwriaeth, Heb. xii. 2; Ioan xv. 4, 5. Efe yw ffynon holl gysuron y Cristion, Ioan xvi. 33; Rhuf. v. 1. Efe yw'r pren sydd yn pereiddio eu holl gystuddiau, ac yn eu sancteiddio, Rhuf. viii. 37. Efe yw sicrwydd a gwysol ein hadgyfodiad, 1 Cor. xv. 20. Efe a'n pwrcasodd, ac a'n dwg ni i ogoniant, Ioan xvii. 22; Dat. xxi. 23. Gan ei fod ef fel hyn yn bob peth yn y gadwyn fawr o iachawdwriaeth, bydded yn bob peth genym ninau. Bydded yn sylwedd ein pregethau ni bob amser. Bydded yn unig Gyfryngwr a phle genym yn ein gweddiau. Gogoniant ei enw fyddo ein hunig gyrchfa ni ato yn ein gweddiau; dyrchafu