Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei enw ef fyddo ein hunig ddiben ni yn ein hymdrechiadau. Bydded yn unig ddiben ein cân yma ar ein taith, hyd nes delom at y dorf hono sydd yn cyd-daro ar y tant, "Iddo Ef."

"Crist sydd ymhob peth." 1. Bydded yn dy holl ddymuniadau. Bydd yn debyg i'r marchnatäwr doeth hwnw oedd yn ceisio perlau teg; ac wedi iddo gael un perl gwerthfawr, fe aeth ac a werthodd yr hyn oll ag a feddai, ac a bwrcasodd yr un perl gwerthfawr. Pe b'ai'r holl fyd wedi ei lapio i fyny yn un pac, nid yw yn ddim i'w gyffelybu i'r tlws yma. Help i ni ddyfod fel yr apostol i gyfrif pob peth yn dom fel yr enillom Grist, Phil. iii. 8, 9, 10. Mae llawer yn dymuno, Ο na b'ai yr ystad acw yn fy meddiant. ychydig a glywir yn dywedyd, O na b'ai Crist, sydd bob peth, yn fy meddiant, fel y gallwyf ddywedyd, "Fy anwylyd sydd eiddof fi, a minau yn eiddo fy anwylyd." Llawer o'r swn nefolaidd yma a glywer yn ein heglwysi, hyd nes delom ni i allu dywedyd,—Awn ar hyd heolydd ac ystrydoedd y ddinas i ymofyn am dano ef, gan ddywedyd, "Pa le yr ydwyt, yr hwn a hoffa ein henaid?"

2. Bydded oll genyt hefyd o ran gwrthddrych dy gariad, hyny ydyw, goruwch pawb. Fe elli gymeryd eraill yn anwyl, ond hwn yn Anwylyd. Yr ydwyf yn cofio i mi ddarllen am un Mr. Welsh, wedi iddo ymddiddan am Grist, a aeth i synfyfyrio am dano. Yn y fan fe welwyd y dagrau yn rhedeg dros ei ruddiau. Gofynwyd iddo am yr achos, a chyfaddefodd mai am na allai dynu ei galon i'w garu fel y dymunai.

3. Bydded yn oll genym yn nyledswyddau ein crefydd: efe fel esiampl i'w ddilyn, efe fel nôd i gyrchu ato; dechreu drwy ei gariad, cyflawni drwy ei gymorth, diweddu i'w glod ef. Ni all y Cristion wneyd dim yn iawn, meddai Paul. "Yr wyf yn gallu pob peth," meddai, "trwy Grist yr hwn sydd yn fy nerthu." Nis gall yr aderyn ddim hedeg heb ei adenydd, na'r llong ddim hwylio heb wynt a hwyliau; felly nis gall y Cristion ddim ond trwy Grist.

4. Bydded yn dy holl feddyliau. O mor hapus a fyddem pe baem a Christ heb fyned o'n golwg un amser, ond fel y sun-flower, a'n golwg arno yn barhaus, hyd nes delom i allu dywedyd fel Awstin, fod Crist fel mêl i'w enau, fel peroriaeth i'w glustiau, fel cordial i'w galon. Gadewch i'r bydolion siarad am y byd, y morwyr am eu freights, y marchnatäwr am ei enillion, yr hwsmon am ei ychain, &c. Gristion, son dithau