Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn ysgrifenu. Ond fe ddaw amser ag y darllenir yr holl ysgrifau yn wyneb y pechadur, ac y deffroir y gydwybod i gyd-dystio,—"Hyn a wnaethost, a mi a dewais; ond mi a'th argyhoeddaf " (Salm 1. 21).

2. Y mae'n gysglyd ac annheimladwy, megis wedi ei serio â haiarn poeth (1 Tim. iv. 2). Y mae hi yn myned fel hyn wrth hir arfer pechu; y mae'n caledu trwy dwyll pechod (Heb. iii. 13). Peth hynod yw pechod, bob tro y gwnelo dyn ef, y mae'n gadael rhywbeth ar ei ol yn y gydwybod, sef euogrwydd. Dyma lle y mae eisteddle euogrwydd.

3. Y mae cydwybod wedi llygru, oblegid, pan y mae yn barnu, yn fynych y mae'n cam—farnu, gan alw y drwg yn dda, a'r da yn ddrwg (Esaiah v. 20). Maent yn meddwl eu bod yn gwneyd gwasanaeth i Dduw wrth erlid a lladd y disgyblion (Ioan vi. 20). Y mae hi weithiau yn condemnio am beth diniwed (1 Cor. viii. 7).

4. Mae cydwybod wedi ei llygru, oblegid y mae ei gwaith yn hanerog iawn; yn argyhoeddi am un pechod, ac yn gadael llonydd i'r dyn mewn pechodau eraill.

5. Y mae cydwybod yn llygredig, oblegid y mae hi yn aflonydd iawn mewn llaweroedd, ac yn peri anesmwythder mawr; weithiau yn gyru rhai i anobaith. "Pwy bynag a'm caffo a'm lladd," meddai Cain. Judas hefyd. Mae cydwybod yn gwneyd llawer un yn druenus, ac yn ddychryn iddo ei hun. Rhan o uffern ar y ddaear yw byw gyda chydwybod wedi deffro. "Ysbryd cystuddiedig, pwy a'i cyfyd?" Cydwybod euog wedi ei deffro a newidiodd wedd Belsassar. Cydwybod euog wedi ei deffro a wylltiodd Judas; gwnaed ei gydwybod fel careg galch i boethi a chwyddo, nes y torodd ar ei draws. Mae cydwybod euog yn debyg i secret letter a 'sgrifenir a llaeth; nis gellir ei ddarllen nes ei ddal wrth dân: yna fe gocha y llaeth, a gellir ei ddarllen, fel pe buasai wedi ei 'sgrifenu ag inc coch. "Pan ddaeth y gorchymyn yr adfywiodd pechod," meddai Paul (Rhuf. vii). Pan aed ag ef at wres tân mynydd Sinai, fe adfywiodd pechod, fel y daeth yr holl 'sgrifen ag yr oedd cydwybod yn 'sgrifenu tra yr oedd yn fud fel Zecharias, yn eglur i'w darllen. Felly y daw gyda phawb. Y mae yna rai wedi bod dan ddychrynfeydd cydwybod euog. Dychrynllyd iawn ydyw euogrwydd. Y mae wedi gwneyd i rai waeddi, "Nid oes iechyd yn fy nghnawd, na heddwch i'm hesgyrn, oherwydd fy mhechod." Dychrynllyd iawn ydyw darllen yr hanes am erlidwyr yn