marw, a'r gydwybod yn euog,—Herod, Antiochus, ac eraill. Meddai rhywun, os yw cydwybod euog fel yna wedi ei deffro, gwell genyf fi beidio a'i deffro, gael i mi lonydd. Dal sylw, y peth gwaethaf yn y byd yw diffodd argyhoeddiadau cydwybod. er i ti ei muzzlo hi yn awr, fe wna Duw ei genau hi yn rhydd ryw bryd; ac os wedi myned o'r byd yma y gwneir hyny, gwae di byth; hi fydd yn bryf na bydd marw, yn dy gnoi yn uffern, heb obaith tawelwch byth. Pa beth a wnaf? Yr wyf yn suddo i anobaith fel yna. Nid rhaid i ti ddim, oblegid y mae modd ei phuro a'i thawelu yma. Am hyny, deuaf at y pen nesaf, sef yn
III. FOD MODD I'W PHURO.—Y mae yn gofyn bod yn ofalus iawn yn y pwnc yma, rhag cymeryd gau feddyginiaeth. Gochel gymeryd dim y tu yma i'r gwir falm o Gilead. Y peth a apwyntiodd Duw, y mae hwnw yn sicr o wneyd y tro.
1. Gochel gymeryd dy ddagrau, na'th ddiwygio, na rhyw dro a fu arnat, er's talm, i dawelu dy gydwybod. Feallai dy fod di, pan ruo dy gydwybod ac yr elo yn aflonydd, yn cofio rhyw dro fu arnat er's talm, ac yn perswadio dy hun, gan ddweyd, O, ni chollir mo honof, y mae Duw wedi fy ngharu yn siwr, neu ni phrofaswn mo'r pethau a brofais er's llawer dydd. O enaid anwyl, nid yw hynyna ddim yn ddigon, nid Crist a'i waed ydyw peth fel yna. Y mae lle i ofni mai gau Grist sydd genyt ti. Nid rhyw un tro go ryfedd y mae Duw yn ei roddi ar ei bobl, ond aml ymwared. Cafodd Saul, brenin Israel, un tro rhyfedd; y morwynion ffol; y rhai oedd yn gwaeddi, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; a'r rhai a oleuwyd unwaith, &c.
2. Gochel farnu fod dy gydwybod yn dda oherwydd i feithder amser ei gwneyd yn ddistaw. Y mae llawer un ag a fu yn lled aflonydd, ond ymhen amser, y gydwybod yn myn'd yn ddistaw; nid am ei bod wedi taro wrth y wir feddyginiaeth, ond am iddi galedu trwy dwyll pechod, a myned yn annheimladwy. Cofia frodyr Joseph, ymhen hir amser, pan aeth yn wasgfa yn yr Aifft, deffrodd euogrwydd am werthu Joseph yno. Felly, fe ddeffry cydwybod euog ymhen hir amser, fel arthes wedi colli ei chenawon.
3. Nid gweithredoedd da dyn ei hun a wna'r tro, na chyflawniad o seremoniau Iuddewig; nid gwaed yr aberthau, na dyfroedd y moroedd a ddiffydd dân euogrwydd yn y gydwybod.
4. Yr unig foddion y mae'r Beibl yn ei nodi ydyw gwaed