Crist (Heb. ix. 13, 14). Os oedd gwaed teirw a geifr yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd, pa faint mwy? Dowch dduwinyddion, a fedrwch chwi ddweyd? Gormod gorchwyl i chwi ddweyd, pa faint mwy; ond ei fod yn ddigon. Gormod gorchwyl i angylion i ddywedyd ei werth. Y mae eiriolaeth y gwaed yma yn fwy yn y nefoedd, na'r pechodau mwyaf a gaed.
"Gwrandewir llais ei ddwyfol glwy',
O flaen eu damniol floeddiad hwy."
Y mae'r gwaed yma yn drech na'r euogrwydd mwyaf a gaed. Diolch am foddion effeithiol ddigon.
1. Os cadwodd y gwaed cysgodol fywyd Israel yn yr Aifft, pa faint mwy y bydd i waed Iesu gadw a phuro?
2. Os cadwodd y gwaed a dywalltwyd wrth fynydd Sinai fywyd, pa faint mwy y bydd i waed Iesu gadw?
CASGLIADAU.
1. Dyledswydd y rhai a gafodd gymwysiad o'r gwaed yw ymdrechu i gadw cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion.
2. Oni phurir y gydwybod yma, fe fydd euogrwydd yn bryf na bydd marw yn uffern.
LLOFFION O'R PREGETHAU.
PA BETH A WNEIR I'R DYN PECHADURUS?
Yn fuan wedi y cwymp, y cwestiwn mawr yma a osodwyd i lawr,—Pa beth a wneir i'r dyn pechadurus? Y mae efe, medd Duw, wedi tori fy nghyfraith, a gwrthryfela yn fy erbyn; a chan belled ag y mae ynddo, wedi cynyg dadwneyd holl waith mawr y greadigaeth; wedi tynu marwolaeth, melldith, a phechod am ben y byd, ac wedi ei ddifetha ei hun am byth. Angylion yn tewi, seraphiaid yn ddistaw; neb o'r llu nefol yn medru gwybod am ffordd i achub dyn. O'r diwedd, dacw drugaredd a heddwch yn codi i fyny i geisio heddychu Duw. Yn union, dacw gyfiawnder a gwirionedd yn codi i fyny, yn wrthwyneb iddynt, gan anog Duw i fyned ymlaen i gosbi dyn, a dangos ei hun yn dân ysol, ac i losgi y pechadur. Yna dyna ddadl yn codi rhyngddynt.
1. Trugaredd, gan ei bod hi yn un barod i dosturio ac i ymgeleddu, nid yw hi ddim yn edrych beth y mae efe yn ei