Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymgymeryd â'r gwaith, ac iddo wneyd y gwaith mor fanwl ac mor drwyadl, yn brawf fod y gwrthddrych yn deilwng. Cyhoeddwyd y Cofiant yn llyfryn bychan, tebyg iawn o ran maint i'r Rhodd Mam, ond ei fod yn cynwys llawer mwy o fater, gan ei fod mewn llythyren fanach. Yr oedd mam Robert Williams yn gyfnither i'r bardd, gan fod mam y diweddaf, enw yr hon oedd Catherine Pierce, yn chwaer i fam y cyntaf, enw yr hon oedd Margaret Pierce. Cynwysa y Cofiant hefyd farwnad helaeth o waith y bardd. Er mai bychan ydyw y llyfr, eto, y mae yn dwyn holl nodweddion meddwl yr awdwr, yn alluog, meistrolgar, byw, cryno, a chyflawn. Ni a geisiwn roddi crynhodeb byr o hanes a nodweddion Robert Williams, fel y ceir hwy yn y llyfr hwn, gan ddyfynu rhanau o hono wrth fyned ymlaen. Ni a ymdrechwn wneyd hyny yn ysbryd y llyfr, yr hwn sydd wedi ei ysgrifenu mewn ysbryd nodedig o grefyddol a duwiolfrydig.

Gellir edrych ar Robert Williams fel un o'r "caredigion oblegid y tadau," gan ei fod yn disgyn o deulu nodedig mewn crefydd. Yr oedd ei fam yn wraig amlwg mewn duwioldeb. Sonia am "addysg ei anwyl fam," ac y byddai yn "clywed ei fam yn gweddio" yn fynych. Tybiwn hefyd mai hi fyddai yn cadw y ddyledswydd deuluaidd yn y teulu. Yr oedd hithau yn wyres o du ei thad, enw yr hwn oedd Robert Prichard, i un o hen grefyddwyr cyntaf ardal Brynengan, yr hon a elwid ar lafar gwlad "Sudi Brynbrych," yr hon, fel y gwelir mewn cwr arall o'r llyfr hwn, oedd yn un hynod mewn crefydd. Tybiwn hefyd fod ei fam o ochr ei mam, enw yr hon, fel y cyfeiriwyd, oedd Margaret Pierce, yn perthyn i rai o hen Fethodistiaid cyntaf Eifionydd. Mae llawer o ganghenau o'r cyff hwn yn wasgaredig trwy Leyn ac Eifionydd, y rhai sydd yn bobl barchus, ac yn grefyddwyr selog a chywir. Yr oedd brawd iddi hi o'r enw Evan Pierce yn flaenor yn niwedd ei oes yn Llanengan, ac yn byw mewn lle o'r enw Tyddyncallod, ac yn flaenor er's llawer o flynyddoedd cyn hyny yn y Terfyn neu Seion, Clynog, ac yn byw yn Llwyn—yr—aethnen, plwyf Llanaelhaiarn. Bu pregethu lled gyson yn nhŷ Llwynyr—aethnen am lawer o flynyddoedd yn amser Evan Pierce (o 1790 hyd 1820, feallai). Bu pregethu achlysurol yn y lle hyd y flwyddyn 1850. Yr oedd efe yn hen gymeriad nodedig a chryf. Yr oedd yn arw yn ei ffordd, ac yn meddu ar lawer o arabedd. Dywedai ymadroddion yn ymylu ar fod yn anweddus, ond yr oeddynt yn gweddu iddo ef, er na fuasent