felly i neb arall. " Yr oedd ganddo allu anghyffredin i effeithio ar deimladau dynion: un funyd gwnai i gynulleidfa chwerthin gan lawenydd, y funyd nesaf gyrai hwy i wylo dagrau." Yr oedd y diweddar John Evans, y Nant, blaenor call a dylanwadol yn y Nant, yn fab iddo, ac y mae Mrs. Roberts, priod y Parch. D. Roberts, Abererch, ysgrifenydd medrus Cyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd, yn ferch iddo yntau. Adwaenem chwaer hefyd i John Evans, sef Ellin Evans, Murmawr, Clynog, yr hon oedd hen chwaer hynod am ei ffraethineb, ac mor hynod a hyny am ei duwioldeb; ac y mae Mr. Owen Evans, blaenor ffyddlawn yn Seion, yn fab iddi hithau. Mae Mr. Evan Evans, blaenor medrus yn Gosen, hefyd yn ŵyr 1 Evan Pierce. Mab i Catherine Pierce oedd Eben Fardd, bardd enwocaf ei oes. Ac y mae nifer mawr o ddisgynyddion i Margaret Pierce yn y wlad, y rhai sydd yn grefyddwyr ac yn Fethodistiaid o'r iawn ryw. Yr oedd Richard Roberts, blaenor yn Nebo, Llanllyfni, yn fab iddi; ac y mae Mr. Richard Jones, yr hwn sydd yn flaenor selog a haelionus yn Golan, yn wyr iddi. Mae ein cyfaill Ioan Eifion, Talysarn, yn gallu enwi cynifer ag un-ar-ddeg o bregethwyr yn ddisgynyddion i Robert Prichard a Margaret Pierce, o ba rai y mae efe ei hun yn un. Enwa hefyd nifer mawr o wyr dylanwadol eraill sydd yn disgyn o honynt. Ond amser a gofod a ballai i ni enwi ychwaneg. Yr oedd chwaer arall i Margaret Pierce yn byw yn y Garn, o'r enw Ellin Pierce, yn briod â hen flaenor o'r enw Robert Sion. Bu Ellin Pierce yn Llangeitho lawer gwaith yn gwrando ar yr enwog Daniel Rowlands. Nid dinod ychwaith oedd teulu Robert Williams o du ei dad. Saer coed oedd ei dad, John Williams, wrth ei alwedigaeth. Bu yn gweithio am lawer o flynyddoedd yn y Gwynfryn, gyda'r hen foneddwr Cymreig hynod, y diweddar Major Nanney, tad Syr Hugh E. Nanney; ac efe oedd pensaer yr ystad. Nid oedd John Williams yn proffesu crefydd, ond yr oedd yn gymeriad difrycheulyd. Yr oedd hefyd yn weithiwr da, ac o flaen ei oes mewn rhoddi addysg i'w blant. Yr oedd ei dad, sef William Williams, Ynys-yr-arch, Bwlchderwin, yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr, ac yn aelod yn Llanllyfni. Yr oedd yntau, meddir, o fywyd pur, ac yn dduwinydd da. Na thybied y darllenydd mai o gywreinrwydd yr ydym yn olrhain yr achau hyn, ond yr ydym yn gwneyd, i weled ffordd y Duw mawr o amlhau duwiolion o'r iawn ryw yn y wlad.