Ganwyd Robert Williams yn mis Gorphenaf, yn y flwyddyn 1814. Enwau ei dad a'i fam oeddynt John a Mary Williams, ac yr oeddynt yn byw mewn tyddyn bychan o'r enw Tan-y-chwarel, yn agos i gapel Bwlchderwin, ac mewn amgylchiadau cysurus o ran eu bywoliaeth. Dygwyd Robert i fyny yn yr un alwedigaeth a'i dad, sef saer coed, a dywedir ei fod yn dra diwyd, gofalus, a medrus yn ei orchwyl. Cafodd addysg dda, yn ol manteision y dyddiau hyny, a dywedir ei fod yn dysgu yn dda ac yn fuan. Bu yn dysgu ei alwedigaeth gyda'i dad am tua chwe' blynedd, gan ddechreu mor ieuanc a deuddeg oed. Ar ol hyny, bu yn Mhwllheli yn gweithio ei waith am tua blwyddyn a haner. Wedi dyfod yn ol i'w hen ardal, dechreuodd gadw gwaith ei hun, yn agos i gapel Bwlchderwin, sef yn llofft ystabl, Gyfelog-ucha, ac efe y pryd hwnw, a wnaeth waith coed y ty capel presenol. Ond yn fuan symudodd i ardal Pantglas, lle y bu am amryw flynyddoedd, yn cadw gweithdy saer, ynghyd â siop fechan; a dywedir ei fod wedi bod yn dra llwyddianus gyda hyn. Adeiladodd dri o dai yno, ac y maent yn aros eto, sef y tai sydd rhwng y ddau gapel. Tua dechreu mis Awst, yn y flwyddyn 1842, gadawodd ei fasnach a'i waith, ac aeth i'r Athrofa i'r Bala, lle yr arhosodd am tua dwy flynedd a haner. Yn mis Mawrth, 1845, dychwelodd adref, dan orthrwm afiechyd a gwendid; ac er gwneyd a allai i ymryddhau o afaelion sicr a haiarnaidd angeu, gorchfygwyd ef o'r diwedd; ac wedi hir nychdod poenus, yr hwn a ddioddefodd gydag addfwynder ac amynedd mawr, ac ymroddiad tawel i ewyllys yr Arglwydd, hunodd yn yr Iesu, debygem, ar yr 11eg o Fawrth, yn y flwyddyn 1846, pan yr oedd yn agos i 32 mlwydd oed; a chladdwyd ef yn nghladdfa y Trefnyddion Calfinaidd, wrth y Capel Uchaf, Clynog, o'r lle 'ni chyfyd mwy hyd oni byddo heb nefoedd." Dyna hanes rhai o brif symudiadau ac amgylchiadau ei fywyd, ynghyd ag ychydig o hanes ei fisoedd a'i ddyddiau olaf.
O ran ei berson, "yr oedd yr fachgen teg, gwisgi, hoew, a phrydferth, o'r maintioli canolig, a'i ysgogiadau yn naturiol a dirodres. O ran ei dymer, yr oedd yn siriol, yn fywiog, a boneddigaidd; yn dra charuaidd a hynaws, ac ar yr un pryd yn meddu gradd o urddas a'i hamddiffynai rhag agosrwydd digroeso yr haerllug a'r hyderus. Yr oedd yn ufudd i'w rieni gyda phob gostyngeiddrwydd a serch; a dangosai dra—hoffder neillduol at ei frodyr a'i chwiorydd, ynghyd â thueddrwydd serchus at bawb o'i gyfathrach. Cydweddai ei dymer yn well â sirioldeb tangnenefeddus