Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac â digrifwch ysgafn, nag a llawenydd wttresgar a therfysglyd, neu ddigrifwch trystfawr ac angerddol; yn fyr, yr oedd yn un o'r dosbarth hwnw a hoffant ddifyrwch a llawenydd tawel, a chymedrol; yn hytrach na phrudd-der tawedog ar un llaw, neu chwerthiniad ynfyd a gormod rhysedd ar y llaw arall."

Ni bu nemawr o argraffiadau crefyddol ar ei feddwl hyd nes yr oedd o 14 i 15 mlwydd oed. Cyn hyn, ymunai â chymdeithion ieuainc di-grefydd yn eu harferion gwamal, ysgafn, ac anystyriol, heb ddangos unrhyw wrthwynebiad. Ond pan yr oedd yn yr oedran uchod, teimlodd bethau pur rymus ar ei feddwl, o dan bregeth y diweddar Barch. W. Jones, Rhyd-ddu (ar ol hyny o'r America) ar Deut. xxxii. 29, "O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd!" Efeithiodd y bregeth hono gymaint arno, fel y methodd ag aros yn y capel i or phen yr addoliad. Ni bu dim neillduol ar ei feddwl ar ol hyn hyd nes yr oedd yn agos i 23 oed. Eto, tystiai ei fod yn cael ei gadw yn dyner o ran ei gydwybod, ac mai yn swn yr efengyl fwyn yr oedd yn cael mwyaf o bleser. Ymunodd yn yr oedran hwn a'r eglwys yn Mwlchderwin. "Wedi ei ddychweliad at yr Arglwydd ac at ei bobl, dilynodd cyfnewidiad trwyadi yn ei holl olygiadau a'i arferion; nid ymddangosai fel dychweledigion ieuainc yn gyffredin; yn raddol a hanerog yn ei ymneillduaeth oddiwrth y byd, ac oddiwrth arferion yr oedd wedi hir gynefino â hwynt, ond troes braidd ar unwaith, yn grefyddwr o'r fath fanylaf; ymroes i hunanymwadiad llymdost, a neillduolrwydd meudwyaidd braidd; ac er iddo ddyfod mewn amser, feallai, yn fwy cymdeithasgar, eto, ni leihaodd ddim yn ei fanyldra crefyddol yn ol goleuni ac argyhoeddiad ei gydwybod." Tua'r adeg hon, ysgrifenai at ei frawd y geiriau difrifol a ganlyn:—" Mae yn drueni meddwl dy fod heb dderbyn Iesu yn Frawd; yr wyf fi yn tystio gerbron Duw, yr hwn a wyr galonau pawb, na bu ddim yn edifar genyf, un munyd, roddi fy hunan iddo, ond yn gwbl fel arall, yr wyf yn foddlonach nag y bum erioed o'r blaen; yr wyf wedi cyraedd cartref i'm meddwl ansefydlog am byth, gobeithiaf." "Parhaodd," meddai ei Gofiantydd, "i fwynhau y teimladau bywiog a duwiolfrydig hyn ar hyd gweddill ei oes, gydag ond ychydig iawn o eithriadau; ymddangosai ymhob modd, ac ar bob adeg, braidd, mewn tuedd, agwedd, ac ymarweddiad, yn gyfrinachol, yn gystal ag yn gyhoeddus, fel un wedi 'rhoddi ei hun i fyny i Iesu Grist,' mewn gwirionedd."

O ran ei arferion crefyddol, "daliai olwg eiddigeddus arno ei hun, rhag i'w wendid fod yn fagl iddo, a rhag i'r cnawd un