Ar adegau fel hyn, codai ei deml heb sŵn y morthwyl a'r cŷn, ac mae gwerin Cymru yn cerdded i mewn iddi gyda hyfrydwch a pharch na theimlwyd ac na ryglyddwyd eu rhagorach wrth borth nemor awen Gymraeg.
Yn ystod y cyfnod hwn y canodd ei faled "Pegi Lewis," ei "Ganeuon y Safonau," ac yn neilltuol ei Benillion Telyn." Gydag ambell eithriad, ni tharawodd y nôd mor fuddugoliaethus yng Nghaneuon y Safonau ag a wnaeth yn y lleill a enwasom. Yn ei byd ei hun y mae'r "Faled " yn llwyddiant, wedi ei llunio'n dda, yn Gymreig ei harddull, ac yn llawn chware awgrymiadol iach:—
Cadd y fuwch ei chloi i fyny
Yn y beudy i newynu;
Yno brefai yn glymedig
Foliant crefydd sefydledig.
Ond os oedd "y cyflogedig,"
Am gadw'r eidion yn glymedig;
'Roedd Pegi Lewis wedi gwylltu,
Yn tyngu gwnai eu datgysylltu.
****
Y mae Pegi'n rhydd ei gwala,
Mae'r fyswynog heb ei dala,
Yn dychlamu ar fynyddoedd!
Yn pori gwellt y mil blynyddoedd!
Prin y mae angen dywedyd mae "Baled " â'i hwyneb ar frwydr yn "rhyfel y Degwm" yw "Pegi Lewis."
Caneuon i blant ysgol yw "Caneuon y Safonau," ac fel y gellid disgwyl, mae tinc siriol iddynt oll.
Dyma bennill neu ddau o "Gân y bugail ar droad y dydd":—
Hoi! hoi!
Mae'r dydd wedi troi!
Mae'r haf yn dynesu
A'r gacaf yn ffoi.
****
Bydd, bydd,
Rhyw wên ar bob grudd,
Wrth weld haul yn estyn
Dau derfyn y dydd.
****