Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yno bob amser yn gynnar mewn pryd
I gael yr addoliad yn gyfan i gyd!
Ac er nad oedd neb yn ei glywed yn dod
'Roedd pawb yn y capel yn gwybod ei fod
Ef yno yn wastad i helpu'r gweddïe,
Clywid sŵn ei "Amen," a "wel, wel, ïe, ïe!"
Yng nghryfder ei brofiad yr oedd ei fawr nerth,
Ac yng ngwres ei galon yr oedd ei fawr werth,
Yn ymdaith y moli pan oedd yn hen oed,
'Roedd ei deimlad a'i galon mor ieuanc a'i droed!
Dilynai'r pregethwr â'i law ac â'i lef,
A mynych pregethai'n fwy doniol nag ef;
Ni chaffai un sylw ddim dianc ei glust,
Ac i bob erfyniad, ei lais oedd yn dyst,
A thorrai ei deimlad yn ffrwd o weddïe,
"Amen, a wel, wel! ho, ho, ïe, ïe!"

Nid oedd yn rhyw gawr i esbonio Gair Duw,
Esboniad y profiad, ar hwn 'roedd yn byw,
Os nad oedd yn gallu esbonio bob pryd,
'Roedd e'n gallu teimlo y cyfan i gyd;
Cof gennym am ddosbarth yn darllen rhyw dro,
Yng nghylch Paul a Silas yng ngharchar dan glô,
A rhyw ran o'r wers yn dywyllwch o'r braidd,
Yn gofyn ei farn i HEN WILLIAM Y GWEYDD ';
"Fi ddwedach chwi 'mhrofiad yn awr," ebe fe, "
Buasai yn dda gen i fod gyda nhw yn y lle,

I uno'n y canu, y mawl, a'r gweddïe,
Buasai'n dda gen i fod yn y jail, ie, ie."
Fe ddaliodd i'r diwedd er cymaint ei oed,
Yn wresog ei galon ac ysgafn ei droed,
Dihangodd o'r ddaear i'r nefoedd i fyw
Ar ol y cyfeillion a'i blaenodd at Dduw;
Mae heddyw'n y nef, gyda Silas a Paul,
A rhwymau pob carchar am bythoedd ar ol!
Mae gyda'r hen frodyr, hen ffryndiau'r hen fro,
Yn dweyd yr Hen Hanes, a "wel, wel," a "ho, ho!"
A chredwn fod clywed ei lafar a'i lef,
Yn ddigon i greu hwyl Gymreig yn y nef!


Agos yr un yw naws ei awen pan ddaw i ganu ar ol "Mary Tŷ Cwrdd." Hen wraig hynod am ei diniweidrwydd, ei ffyddlondeb crefyddol, a'i gofal dros Fyfyrwyr Coleg Caerfyrddin, oedd hi, ac yn gwarchod Capel Heol Awst, y dref honno. Rhy aml i'w hadrodd yw'r troion direidus a wnaed â Mary gan y