Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

myfyrwyr! Pan wnaed tysteb iddi, nid digon i Watcyn oedd anfon y "geiniog" heb anfon y gân." "Diwedd y geiniog oedd y gân" y tro hwn! Meddai:—

Yr hen fyw chwaer, rhof ran fach i—estyn
Tysteb deilwng iddi;
Diau cesglwch, heliwch chwi,
Arian mawr iawn i MARI.


Gyda'i marw hi daeth y gân, a dyma rannau o honi:—

Mae llawer yn cofio am MARY TY CWRDD,
Daeth diwedd ei dyddiau, aeth hithau i ffwrdd,
Cyrhaeddodd ei blwyddi i wyth deg ond dwy,
Fuasai neb yn anfoddlawn iddi fyw'n llawer hwy;
Nid oedd yr un gelyn gan MARY drwy'r byd;
Gwneud ffrindiau bu MARY drwy'i bywyd i gyd.

Mae'r tafod yn fud wedi siarad yn hir,
Mae'n chwith gennym rywfodd ei dewi yn wir;
Ni a'i clywsom yn fynych yn dwedyd y drefn,
Ond ni chlywsom hi 'rioed yn trin neb yn ei gefn;
Os trin yn y wyneb wnai MARY TY CWRDD,
Canmolai'n y cefn wedi i'r cyfaill fynd ffwrdd.

******
Er nad oedd ei dysg yn aruchel a chlir,
Yr oedd ei gwybodaeth yn helaeth yn wir;
Hi wyddai gyhoeddiadau yr holl wlad o'r bron,
Dydd-lyfr pregethwr ardderchog oedd hon;
Adwaenai gerbydau Y Mis bob yr un,
Er nad oedd yn berchen ar gerbyd ei hun.

******
Adwaenai bob dyn i Hewl Awst ddoi i'r cwrdd,
A gwyddai ei enw cyn iddo fynd ffwrdd,
Hi deimlai'n anrhydedd gael agor y ddôr,
Ac arwain dieithryn i'w le mewn rhyw gôr;
'Doedd dim a'i boddlonai yn fwy dan y ne'
Na llenwi y capel hyd na byddai lle!

Gwell ganddi gael cadw y drws yn Nhŷ Dduw,
Na phe cawsai balas brenhinol i fyw;
Wrth byrth tŷ yr Arglwydd bu fyw i hen oed,
Os byr oedd ei cham, ac os araf ei throed
'Roedd MARY y cynta'n y capel bob cwrdd,
A'r olaf bob amser yn myned i ffwrdd.

******