Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ni cheir dim yn ei emynau a bair ryfeddu mawr, nes bod y llygad yn ymchwyddo gan ei oleuni newydd—rhyw feddwl hyd at lesmeirio—fel ag y ceir yn rhai o gyffyrddiadau mawrion "Williams, Pantycelyn," ac yn amryw o emynau "Ann Griffiths." Mae ef, er hynny, ar yr un gwastad â'i gyd-oeswyr goreu a ganodd emynau, ymhob ystyr hanfodol i'r emyn Cymraeg.
O'n hemynwyr diweddar, diau mai yn "Hiraethog" yn unig y caed yr ergyd mawr, a'r praffter meddwl a brawddegu a wna le mawr i awdur ym myd emyn. Ond mae rhywbeth yn natur pethau a bair fod emynau Watcyn Wyn, a'u tebyg, yn cyflawni gwaith eu dydd yn odidog.