Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CHWARE AWEN.

AR un cyfnod, diau fod mwy o ryw chware goleu, llawn athrylith, yn y Gwynfryn, ac o'i gwmpas, nag odid un cartref yng Nghymru. Heblaw bwrlwm cudd, cyson y Bardd ei hun, gyda'i iechyd y pryd hwnnw yn dda, a'i feddwl yn bur rydd, yn fyw i bob symudiad a chyffyrddiad, ac yn ganolbwynt i gymaint o fywyd meddyliol a chymdeithasol ei sir a'i wlad, yr oedd cyfeillion lu o bob cylch o fywyd ymron yn dod i "spio 'i hynt," ac anaml y byddai neb mewn brys i ymadael; a byddai pawb a ddeuai yn "rhoi ei arian at y cyfnewidwyr," yn ol yr herwydd. Ni feddyliai neb am fardd mewn brys i ymadael â chylch mor gydnaws, oedd yn eithriad mewn gwlad ac oes, ac yn sefyll allan fel penrhyn goleu yn y tir; ac nid oedd dŷ yng Nghymru a mwy o hiliogaeth ddifyr hwnnw yn galw ynddo na'r Gwynfryn; a byddai rhai cyfeillion agos i'r Bardd yn aros dros ddyddiau yno. Yr oedd swyn ei bersonoliaeth a'i gartref yn cerdded hyd ymhell. Anaml y glaniai Cymro o unrhyw nod o'r America, yn Llynlleifiad, na byddai wedi cyrraedd y Gwynfryn cyn pen pythefnos, a chael croesaw Cymraeg, lond aelwyd, ond â chymaint o chware direidus, athrylithgar o'i gylch, nes y byddai'r ymwelydd yn cael llawer munud syn, ac yn gwylio'r gwreichion a chwareuai o'i gylch gyda rhyw fath o bryder.

Bu'r meddwl am dreulio noson yn y Gwynfryn fel hud melys i lawer un, lawer tro,—mynd tua'r hen gartref hyd ymyl y cae, yng nghysgod coed prydferth, lle y byddai awel yn chwiban, a lle y cai blodau gysgod; a'r drws yn agor i lond tŷ o garedigrwydd naturiol, ac o londer tlws.

Ond chware'r Bardd ei hun, pan ddeuai awr dawel, lonydd, yn rhodianna rhwng y ddwy berth wyros, ymhlith y coed afalau, neu yn eistedd ar foncyff gerllaw, neu yn ei gadair glyd yn ei ystafell, ac yn amlach na dim yn ei fyfyrgell lân, drefnus, gyda'r ddôl lâs yn ymgodi'n araf ar gyfer y ffenestr, a derw cedyrn fel gwylwyr ffyddlon hyd y fan. Ie ei chware bach, cartrefol, ef ei hun!