CHWARE AWEN (PARHAD).
AETH yn dro trwstan ar hen gyfaill iddo o'r enw Jacob, unwaith. Crogasai Jacob ei wasgod lle y diferai naphtha, ac â honno am dano, aeth yn rhy agos i dân i'r diferion beidio â dywedyd eu hanes. Ac fel hyn y dwys holai'r Bardd:—
JACOB, beth oet ti'n jocan
A gwasgod oil—gwisg o dân?
Paham yr est i'r fflamau
Fel hyn, yr hen bryfyn brau?
Paham, JACOB, gwnest bobi
O dy fodd, dywed i fi?
Nid rhaid oedd dy roi i dân
O dir byw mor dra buan.
****
JACOB, da i ti fod dŵr
Yn ymyl yr hen fflamiwr
I gasg dŵr mewn gwisg o dân
Llemaist fel dyn a lluman—
Baner uchel rhyfelwr
Yn dân ar wyneb y dŵr!
A JACOB ddaeth heb jocan
O'r dŵr wedi concro'i dân!
Cofia di fod naphtha 'n wyllt—
Mae y peth mwya poethwyllt:
Ac na ddod dy wasgod waith
O tan oleu tân eilwaith;
Bydd di'n gall o hyn allan,
Osgoa di wisg o dân;
A chofia mai da fod dŵr
Yn ymyl rhyw hen fflamiwr
JACOB, ni fuasai jocan
Heb fodd cael diffodd dy dân.
Rhoed cloc yn nhŵr Eglwys Blwyf Llandeilo, gan Mr. Pugh, Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin, ar y pryd.