Yr oedd y cloc i fod yn eiddo'r dref, a threthdalwyr y dref i'w gadw i fynd. Dadleuai rhai nad allai dim a elai i mewn i dir yr Eglwys Blwyf fod mwy yn eiddo i'r trethdalwyr, ac mai talu am gadw cloc yr Eglwys a fyddent. Nid oedd amgylchiad a barai'r fath ddiddordeb i'r dref a'r cylch ag a barai hwnnw, i fynd heibio heb fynd drwyddo ef—archoffeiriad y fro; a dyma ganu iddo—canu difyr o fyd y werin.
Glywsoch chwi am gloc Llandeilo,
Addurn pennaf twr Sant Teilo:
Wyneb du a bysedd melyn,
Dyma gloc yn grwth a thelyn.
CYTGAN—
Cloc y dre, dyma fe,
Cloc y dre, dyma fe,
Ni fedd clochdy drwy holl Gymru
Gloc o'i fath am gadw'i le.
Cadd y cloc ei dra dyrchafu
Rhag i fysedd plaid ei grafu,
Yno mae yn penderfynu
Dysgu pawb i edrych fyny.
Cloc y dre, &c.
Ble wynebwn ni, ŵyr dewin,
De, neu dwyrain, neu orllewin,
Mae'r tri wyneb ar eu goreu
Yn ceisio boddio'r holl ororau.
Cloc y dre, &c.
I'r Green Hill mae'r wyneb ucha,
Tua'r Walk y llall edrycha,
A'r trydydd dremia mewn diogelwch
Tua'r dehau am dawelwch.
Cloc y dre, &c.
Cerdd y cloc yn bur ddidaro,
Er ei fod o hyd yn taro;
Mae Llandeilo yn ymryson
Pwy sy' i gwnnu'r pwysau'n gyson.
Cloc y dre, &c.
Mae y pwysau o'r uchelder
Lawr yn syrthio i'r iselder,
Ond mae'r dref er maint ei thlodi
Yn ymryson am ei godi.
Cloc y dre, &c.