Er mor drymed ei olwynion,
Troant heb na sŵn na chwynion;
Olew cariad pur sy'n trwytho
Ei gymalau i'w ystwytho.
Cloc y dre, &c.
Dwed rhai ei fod yn rhagluniaethol
Yng nghlochdy'r eglwys wladwriaethol,
I warno dydd ei thrancedigaeth,
A tharo awr ei chladdedigaeth.
Cloc y dre, &c.
Dyma beth yw cloc rhyddfrydig,
Cloc i bawb nid rhyw ychydig,
Cloc â'i oriau fel cenhadon
I bregethwyr a ffeiradon.
Cloc y dre, &c.
Dywed rhai fod ei wynebau
Yn arwyddo rhyw undebau,
Ac mai hwn yng ngwlad fy nhadau
Sy'i daro un yr holl enwadau.
Cloc y dre, &c.
Ei ergydion nerthol tawel
Sydd yn cerdded gyda'r awel,
I ddweyd bydd heddwch fel yr afon
Yn tarddu o fryniau Manorafon.
Cloc y dre! dyma fe,
Cloc y dre! dyma fe,
Ni fedd clochdy trwy holl Gymru
Gloc o'i fath am gadw'i le.[1]
- ↑ [Os goddef ysbryd y Bardd, rhaid rhoi ychydig "nodiadau eglurhaol" (chwedl yntau), nid i "ddangos y farddoniaeth" ychwaith:—"Green Hill"—cartref yr Offeiriad a ddadleuai mai braint oedd i'r trethdalwyr gael talu am "godi pwysau'r " cloc, &c."Y Walk"—Cartre'r Parch. W. Davies, Gweinidog Annibynnol yn Llandeilo, yr hwn a ddadleuai nad allai'r cloc fod yn eiddo neb ond eglwyswyr tra ar dir yr Eglwys."Manorafon"—Cartref y rhoddwr, Mr. Pugh.]