Mae Tom Ellis yn diolch am "gân priodas," ac mae Llewelyn Williams wedi bod yn gwledda ar awen y Bardd yn "Cân a Thelyn," ac yn mynnu anfon diolch ar ol darllen y ddwy linell anfarwol":
Os nad yw'r Twysog yn yr Wyl,
Mae'r genedl annwyl yno.
Yr un yw neges llythyr Dr. Gwenogfryn Evans, ac meddai:
Mae gweld hen wyneb yn nechreu'r llyfr, a chlywed acen a thôn llais adnabyddus fyny a gwared drwyddo, a'r ffaith nad y'ch wedi anghofio un sy'n ymgrymu dan ddyfal donc afiechyd yn peri cynhesrwydd yn y galon ag adloniad yn yr ysbrydôdd. Er gwaetha pen frithin a blinder y blynyddoedd mae'r ysbryd yn dda ar y cyfan ag yn gwawdio'r gymhalwst i hunan!
Da gen i gael ar ddeall eich bod yn iach a chysurus, a gweld fod yr Awen yn "llamu'n iach o fryn i fryn." Oes dim chwant cwarter o ysgol arnoch chi yn y gaeaf mewn lle fel Rhydychen? Mae ma ddigon o ddewis i chi. Dewch lan i roi peep ar y lle, a galwch yn No. 7, Clarendon Villas i gael gweld sut dderbyniad gewch chi!
Gyda chofion cynnes, a diolch lawer am y Delyn, a rhwydd-deb iwch,
Ydwyf, yr eiddoch
GWENOGFRYN.
Canmol gwaith "Ysgol y Gwynfryn" y mae Viriamu Jones; a gofyn am linell i'w cherfio ar rodd werthfawr i deulu urddasol a wna'r Barnwr Gwilym Williams.
Dangos fod Watcyn yn ymholi am fanylion ynglyn â Thegynys a Gwalch Ebrill y mae llythyr Gwydderig ato. Dyna ran o'r hyn a ddaw i'r golwg trwy'r "dellt," ac onid oes yma wneuthur a meddwl, a llanw cylch mawr! Difyr yw llythyr Gwydderig:—
BRYNAMAN,
Nawn Sadwrn.
Annwyl Gyfaill,
Daeth dy epistol i law bore ddoe. Diolch am y gwahoddiad i ddyfod am dro i'r Gwynfryn. Na, nid wyf wedi hanner gwella eto. Yr wyf yn cael annwyd yn barhaus. Yr wyf hefyd yn methu yn lân a chael gwared y crygni sydd yn fy ngwddf ers tua chwech wythnos.
Siarad bass ar hyd y byd—yr ydwyf
Yn greadur cryglyd;
Yn fy nghegen bob ennyd,
Mae rhyw lais marwol o hyd.
Bu'm gyda Dafydd Benygraig a Jacob neithiwr, a chefais yr hyn a ganlyn: