Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ganwyd Tegynys ar yr 8fed o Ionawr, 1847. Bu farw ar y 15fed o Hydref, 1894. Claddwyd ef yn 'Forty-Forte,' yn ymyl Kingston, P.A. Ganwyd y Gwalch ar y 4ydd o Fawrth, 1846. Bu farw ar yr 8fed o Fawrth, 1894. Claddwyd ef yn Summit Hill,' Carbon County, P.A."

Na, nid oes gennyf englyn jubilee. Nid wyf yn gweled dim neilltuol yn y testyn, ond hen wraig wedi cael oes hir i fwynhau byd da a helaethwych beunydd. Dim un newydd o bwys o'r lle hwn. 'Yr Hên Waith Tin,' y buost yn canu mor ymfflamychol iddo, flynyddau yn ol, heddyw yn gorwedd yn dawel o dan ei grwys. Dere i'r lan i draddodi pregeth angladdol iddo. Neu dere a chwmni i'r lan i ddywedyd cyfod a rhodia' wrtho. Os na thyrr y wawr yn fuan o ryw gyfeiriad, bydd y lle hwn wedi marw yn hollol mewn ystyr weithfaol. Nid oes ond un dyn yn unig yn y lle hwn mewn employ gan yr 'Aman Iron Company,' sef William Howells y Down.' Efe sydd yn cadw gwyliadwriaeth rhag ofn i wŷr Llanddeusant ddwyn y gwaith Tin, a mynd ag e drwa.

Cofion cynnes at y Gwynfryniaid, o'r boss i lawr hyd at Pegi Lewis.

GWYDDERIG.

Hawdd y gwelir wrth y llu llythyrau a dderbyniodd ar adegau o gystudd yn 1891, 1898, 1902, 1903, 1904, mor annwyl ydoedd gan ei genedl. Meddai Athan Fardd wrtho:—

ABERTAWE,
Ebrill 21, 1891.

Fy Annwyl Watcyn Wyn,
Blin iawn iawn gennyf glywed am dy afiechyd; gwelais a chlywais arwyddion o'r cyfryw pan gwrddasom ddiweddaf, er na ddywedwyd dim. Hyderaf fod i fy annwyl gyfaill adferiad buan a llwyr, Amen; gyda phob difrifoldeb.

WATCYN WYN, mae'th beraidd delyn
Heddyw'n hongian ar y mur;
Anodd canu sanctaidd emyn
Pan mae'th gorff ar lawr dan gur;
Mae fy enaid yn gweddïo,—
Er nad yw ond gweddi fach,
Gan obeithio clywed eto
Ddyfod WATCYN WYN yn iach.


—Gyda pharch a chofion puraf fy enaid,

ATHAN FARDD.

A thrachefn, yn Ebrill 24, 1891:—

Os yw'th gorff mewn cyflwr poenus,
Fel y nodi yn dy gân,
Mae dy awen fawr yn hoenus,
Ac yn llawn prydyddol dân;
Ni wrandawa'th uchel awen
Ar awelon oer y glyn;
Dedwydd, nwyfus, sionc a llawen
Ydyw Awen WATCYN WYN.