Diddorol yw llythyr Hwfa Môn ato, yn y cysgodion:—
LLANGOLLEN,
Medi 15, 1898.
Fy Annwyl Watcyn Wyn,
Hwyrach y synnwch pan ddarllenwch y llythyryn hwn, a phan fynegaf i chwi fy hanes.
Pan glywais am eich gwaeledd, a phan oeddwn ynghanol twrw a berw y beirdd, yn Eisteddfod ddiweddaf Ffestiniog, ysgrifennais yr englynion sydd ar y ddalen arall, ar ryw scrap o bapur, a rhoddais hwy o'm llaw ynghanol rhyw ffwdan, a phan aethum i chwilio am danynt drachefn, methais yn lan a chael gafael ar yr ysbrydion.
Ond fodd bynnag, bore heddyw, ail ymrithiasant i'm golwg, ac ni bu yn well gennyf weled ysbrydion erioed.
Nid oes ynddynt unrhyw gywreinrwydd, ond y mae ynddynt arllwysiad o'm teimlad ar y pryd. Wele yr Englynion fel y daethant o'm calon ar foment:—
A yw WATCYN WYN awenawl—yn glaf
Dan glefyd arswydawl?
A d'w'llodd, a giliodd gwawl
Llygaid y Bardd allegawl?
Ydyw'r hanes ddywedir ini—yn wir
Am ein WAT. uchelfri?
D'wedwch, os medrwch, i mi,
Ydyw'r angel ar drengi?
O'i wendid, eto i hoender—y daw
Ar ol ei dost bryder,—
Yna y Bardd awen bêr,
Ymlonna mal y Wener.
Brysied i lonni ei breswyl,—nwydus,
Neidied at ei orchwyl,—
Doed ail fywyd, hyfryd hwyl,
I awenydd WAT. annwyl.
O'i waeledd, doed Bardd y delyn—eilwaith
I eiliaw aml Englyn,—
Boed llwydd am lawer blwyddyn,
Yn cynneu haul WATCYN WYN.
Os gwag o farddoniaeth yw'r englynion, y maent yn llawn o'm cydymdeimlad â chwi yn eich gwaeledd. Da gennyf eich bod yn gwella. Fy nghofion annwyl atoch oll fel teulu.
Byth yn bur,
HWFA MON.