Pan ddaliwyd ef gan gystudd yn 1902, anfonodd ei hen gyfaill, Gwydderig, lythyr ato:—
Mawrth 18, 1902.
Annwyl Gyfaill Watcyn,
Ai gwir fod dy hen elyn wedi talu ymweliad arall â thi? Yr wyf wedi clywed hynny. Os yw yn wirionedd, yr wyf yn y cywair priodol i gydymdeimlo â thi. Yr wyf ers diwrnodau ar y sick list, ac yn cael gwaith caled i anadlu tipyn. Cefais annwyd ddydd angladd Watcyn o'r Pia. Bu'm mor ffoled a cheisio dilyn bechgyn hirgoes, hiranadlog, i fyny dros dwyn y Rhosfa, nes oeddwn yn chwys dyferol. Wedi hynny, aros am dros hanner awr y tu allan i'r tŷ. Yr oeddwn yn teimlo yr annwyd yn plannu ei ewinedd yn fy nghorpws. A ydynt wedi sylweddoli fod angladdau Cymru, er mor dra chysegredig ydynt, wedi bod yn angeu i filoedd. Y mae yn ffaith ddiymwad.
Yr wyf yn teimlo ryw ychydig bach yn well heddyw, ond hyd yn oed heddyw
Hyd y parth cyfarth fel ci—yr ydwyf,
A rhedeg i boeri;
Gwelw fardd tra gwael wyf fi,
Heb anadl yn ymboeni.
Neu fe ddichon mai mwy priodol fyddai dyfynnu Ioan Maethlu, a dywedyd fy mod
Yn cyfarch tragwyddoldeb pell
A phob pesychiad.
Gobeithio y cawn dipyn o adnewyddiad nerth gyda'r gwanwyn yma. Yr wyf wedi clywed fod ein hen gyfaill 'Siob' ar ymweliad âg Amanford. Caraswn yn fawr iawn gael golwg arno. Nid wyf yn mwynhau chat yn well gyda neb na chyda Siob. Os nad yw wedi dychwelyd, cofia fi yn garedig ato, a dywed wrtho y buaswn wedi dyfod i edrych am dano pe buaswn yn weddol o iach. Gobeithio y cawn gwrdd eto tua'r haf, naill ai yn Amanford, Ceinewydd, neu rywle arall.
Dim rhagor o bwys. Cofion cynnes at bawb o honoch.
GWYDDERIG.
Yr oedd y cysgodion ar y Bardd drachefn yn 1904, a dyna air oddiwrth "O.M." ato:—
LLANUWCHLLYN,
BALA,
NORTH WALES,
Rhagfyr 31, 1904.
Annwyl Watcyn Wyn,
Yr wyf yn gobeithio'n ddwys eich bod wedi cefnu ar fan gwaethaf eich afiechyd, ac y daw nerth a hoen i chwi eto gyda'r flwyddyn newydd.
Gyda'r dymuniadau goreu i chwi a'ch priod.
Yn gywir,
OWEN EDWARDS.