Y BARDD A'I ARDAL.
O DDYDD ei ddyfodiad i Amanford aeth yn eiddo llwyr i'r lle; nid i'w eglwys yn unig, ac nid i'w enwad yn unig, eithr i'r holl ardal. Yr oedd ganddo syniad aruchel a gwerthfawr am berthynas dyn â'i ardal. Yr oedd ar y blaen o ran ei syniadau am anhepgorion dinesydd, ac yr oedd yn fyw iawn i'w gyfrifoldeb, ac i hawl ei ardal arno.
Yn ei bregeth ar "Cyfamod Duw â dyn," daw ei syniad am y dinesydd gwell i'r golwg. O dan y pen "Cyfamod Lleol," meddai, "Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb."
Rhaid i ddyn ymhob lle gadw cyfamod Duw, os am gael bendith a llwyddiant yn y lle. 'Eiddof fi yr holl ddaear,' meddai Duw, a rhaid i ddyn gofio hynny pa le bynnag y bydd yn byw. Y mae Duw o'n blaen ymhob lle, a phan ddeuwn ninnau yno, cyfamod yn y lle hwnnw yw hi—cyfamod yn Horeb. Cyfamod yn Amanford yw'n cyfamod ni â Duw; mae Efe yma o'n blaen ni. Y mae Duw yn dywedyd yn y byd hwn, fel y dywedodd y Gwaredwr, Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi,' a diolch fod ganddo gynifer o drigfannau i gwrdd â chymaint o dyrfa. Rhaid i ni gadw mewn côf beth oedd diben cyntaf y dyfodiad i Horeb, dod yno i gael bendith, dod yno i gael dŵr, ond te fe?
Felly y mae Duw yn gwneud o hyd, pan yn ein harwain o le i le; mae'r fendith yno o'n blaen. Mae lle am fwyd a diod a chysur a llwyddiant yn ein haros ni yma. Y mae'r ffrydiau yma o'n blaen, yn cerdded rhwng y bryniau. Y mae'r creigiau yma yn llawn cyfoeth, dim ond eu hollti. Y mae'r mynydd du a'r mynydd mawr, a mynydd y Betws yn llawn trysorau, dim ond eu taro. Y mae'r bryniau yn orlawn o gyfoeth, dim ond eu hagor. Y mae'r ddaear yn lâs cyn i ni sangu arni. Y mae'r tir yn bwrw gwenith, dim ond ei aredig a'i hau. Y mae'r lle yn llawn o fendithion, ond cofiwn fod y cyfamod i fod yn llawn grym hefyd yn Horeb! Yr ydym yn ofni weithiau fod dyn wrth fyned o le i le yn barod i anghofio cyfamod Duw, a'i rwymedigaeth i'r lle newydd o hyd. Y mae ambell un, son am y lle y ganwyd ac y magwyd ef y mae e' o hyd; yn yr ardal,