Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cerdded trwy'r Gwynfryn, ond yn weddus a chymdogol. Nid spïo i mewn i helynt nac aelwyd na dyn y byddai, ond teimlo diddordeb brawd call a chyfrifol ynddynt! Ni ymhyfrydai mewn clep ardal; yn hytrach cashai hyn â châs cyfiawn. Collai ei dymer gyda'r arwydd lleiaf o ymyriad yn achosion. personau a theuluoedd. Dygwyd ef i gysylltiad â llu o deuluoedd drwy ei berthynas â myfyrwyr ei ysgol, y rhai a letyai yma a thraw, ond ni chroesai'r terfyn yn ei ymdrafodaeth â neb. Ni fyddai yn gadael argraff o ymdrech i beidio â gwneud hynny; ond peidio â gwneud hynny oedd y peth mwyaf naturiol ganddo. Ni allai neb feddwl am dano fel un yn ceisio "cadw'i ben," ac eto, ei gadw y byddai, ac yn ddianaf. Ni themtid neb i'w gyfrif yn giwt, ac eto, nid elai i fagl. Yr oedd yn naturiol rydd: yr oedd yn naturiol gywir.

Dywedai ardalwyr eu cyfrinach wrtho, ond dywedent hi am y gwyddent na cheisiai hi; ac ni fradychodd yr un erioed. Yr oedd fel Archoffeiriad i'w ardal—a hynny wrth natura phobl yn hoffi ymddiried ynddo, ac yn hoffi ei weled ef yn ymddiried ynddynt hwy. Nid rhyw dŷ gwych yn y pellter oedd y Gwynfryn, i'r ardalwyr syml; ond tŷ â'i ffenestri yn wynebu ar eu bywyd dyddiol hwy, gyda chydymdeimlad naturiol. Cymydog mawr, naturiol, ymddiriedus, oedd ef ymysg ei bobl; ond heb y ffwdan a'r rhwysg lleiaf, a heb gysgod o chwim.

Diddorol fyddai ei ddilyn o'r Gwynfryn i'r pentref ddechreunos, wedi i lafur y dydd beidio. Dacw ef yn troi allan yn syml a hamddenol, rhwng y llwyni gwyrddion, a hyd y llwybr cudd, rhwng dwy berth wyros, heibio i goed afalau, gydag ochr yr hen ysgoldy, i lawr trwy'r cae—heb unrhyw arwydd o frys, ac i'r heol. Mae ffon seml yn ei law—ffon gollen gan amlaf,—y mae wedi ymwisgo'n lân, gyda'i goler a'i dei yn syber; ac eto heb ddim o'i gwmpas yn tynnu sylw ato'i hun. Y mae'i gerddediad yn naturiol, heb unrhyw ymdrech i osgeddu fel hyn ac fel arall. Prin y mae wedi dod drwy'r iet fach i'r heol heb i rywun ddywedyd, "Mr. Williams, shwd ŷch chi?" ac yna ymgom bach naturiol, iach. Ond odid na fydd yno grac o chwerthin cyn delo'r "prynhawn da "—rhyw ergyd ffraeth gan y Bardd wedi digwydd. A phan â i'w hynt drachefn, rhywbeth tebyg a ddigwydd yn aml hyd y ffordd, nes cyrraedd "siop y Chemist ar y 'sgwar," oblegid rhaid galw