yno bob dydd. Ond mor agos yw'r cyfarchiadau, mor rhydd yw'r ymddiddan, ac eto yn llawn parch gweddus—gormod of barch i roi lle i eofndra ar unrhyw adeg. "Prynhawn da, Mr. Williams"; "Shwd ŷch chi heno, Mr. Williams?" "Mr. Williams bach, shwd ŷch chi?"—(ambell i hen ardalwr cyfarwydd). Dyna'r cyfarchiad o hyd. Mor agos! "Shwd y chi heno, syr," medd yr eneth sy'n mynd trwy'r pentref i gyfeiriad un o'r ardaloedd cyfagos. "Shwd ŷch chi heno, merch i," medd yntau. Ac o bydd yn ferch i deulu adnabyddus iddo ef, dyna holi diffwdan a naturiol ynghylch y tad a'r fam. "Ferch," meddai'r eneth wrth ei chyfeilles, mewn llai na munud wedi cefnu arno, "oet ti ddim yn nabod hwnna, Watcyn Wyn,— dyna ddyn ishel yw 'e!" Dyna'r cymydog agos, cartrefol, a'i ardal a'i bobl yn ei galon. Cymydog i ŵr y plâs, a chymydog i'r bwthynnwr! Nid gormod yw dywedyd yr ystyriai teulu'r plâs hi yn anrhydedd i gael "Watcyn Wyn" i dreulio noson yno, ac i swpera gyda hwynt. Noson oleu fyddai noson ei ddyfodiad. Efe fyddai canolbwynt diddordeb y rhai a fyddai yno,—efe, gyda'i bersonoliaeth, enillgar, ei ergyd ffraeth, a'i stori gyfoethog! Yr oedd mor hawdd gan bob oed a phob sefyllfa ei barchu.
Ni ddigwyddai cynhulliad o unrhyw bwys yn Amanford na byddai Watcyn Wyn yno, a phawb yn teimlo nad oedd yn iawn i beidio â disgwyl i ddrws y cyntedd i agor drachefn tra fyddai efe heb ddod. Ac wedi ei ddod, mor foddlon pawb; fel pe teimlent fod popeth yn iawn bellach. Os darlith fyddai, byddai yno, ac yn gwrando'n naturiol a diymdrech bob amser, ond yn chwareus a siriol ar adegau. Os cyngerdd ddigwyddai, nid oedd y gân i fynd heibio heb i Watcyn Wyn fod yno i'w chlywed, yn arbennig y gân Gymraeg gan un o fechgyn Cymru. Pan ddeuai'r gwleidyddwr â'i hwyl a'i oleu, byddai'r Bardd yno, ond odid, ac yn llawenhau gyda phob cyffyrddiad eangfrydig a chenedlaethol. A phwy feddyliai am gyfarfod pregethu heb athro'r proffwydi ieuainc ynddo?
A gwrandawai'r bregeth yn ddistaw, ond yn gynorthwyol iawn, yn neilltuol os byddai arni raen meddwl. Hawdd iawn fyddai ei flino â hyd pregeth, ond ni flinid ef byth gan ormod lled.
Yr oedd yn y golwg i'w ardal, heb ymwthio. ei groesaw wedi cyrraedd o'i flaen bob amser. Yr oedd ei