Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gartref yn disgleirio yn ddiymdrech yn y cylch, a'i bresenoldeb yntau ar bob achlysur yn dod a boddlonrwydd. Yr oedd yn unplyg heb fod yn erwin'; yn garedig heb fod yn rhodresgar. Cyfarchai gŵr y modur yn gystal a gŵr y car marchnad ef yn y ffordd.

Ychydig fu ei wasanaeth ar fyrddau cyhoeddus, ac ni chwenychai hwynt. Collodd mewn etholiad Bwrdd Ysgol unwaith, a mawr y rhyfeddu a fu. Erbyn edrych, hyn oedd y chware. Wrth ei enw priodol, wrth reswm, yr oedd ar y llechres—"Williams, Watkyn Hezeciah," a phwy wyddai pwy oedd y "gŵr dierth hwn?" Bod allan a fu raid iddo, ond mor foddlon, ac iach ei ysbryd a bachgennyn yn mitsio. Tra y brysiai'r ardalwyr a'i gyd-blwyfolion ato i fynegi eu siom, troi'r amgylchiad i chware'n ffraeth y byddai ef.

Fel y llawenychai ef yn nyrchafiad a llwyddiant ei ardal, llawenychai ei ardal hithau yn ei lwyddiant a'i ddyrchafiad yntau. Byddai ei fuddugoliaethau Eisteddfodol yn cynhyrfu ei ardal, ei blwyf; a darn mawr o'i sir, drwyddynt.

O fewn ychydig filltiroedd i Amanford y mae Brynaman, lle genedigol Watcyn Wyn; ac ar ei ddychweliad o Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr, lle yr enillodd y gadair yn 1885, mynnodd ei hen bentref genedigol lawenychu a gorfoleddu. Yr oedd ef i arwain mewn cyngerdd fawr yn y lle hwnnw, y noson honno, a phan ddaeth y tren pedwar i mewn gyda'r Bardd a'i gadair, yr oedd yno dderbyniad tywysog iddo: goreugwyr y lle yn ei gyfarfod, a seindorf y Brynmawr yno i chware, See the conquering hero comes. Rhoed y Bardd yng ngherbyd Dr. Rees, Tirbach; a chyda'r seindorf yn blaenori, ac yn chware, yr oedd dwy fil o galonnau yn cerdded y ffyrdd, ac yn cydlawenhau. Yr oedd yr holl bentref wedi ei addurno gyda baneri hyd y ffordd, a bwa goruchafiaeth hardd yn ei chroesi, a'r gair tirion, "Croesaw i Watcyn Wyn" i'w weled o bell ar y baneri a'r bwa.

Pan enillodd y "Goron" drachefn yn Eisteddfod Chicago, yn 1893, bu raid i Amanford fynd i hwyl.

Caed cyfarfod llongyfarch yn yr Ivorites' Hall, Rhagfyr 19, 1893, yr hon oedd wedi ei gorlenwi, medd yr adroddiad yn y papur dyddiol. Daeth yr Anrhydeddus Anthony Howells, y trafnoddwr Americanaidd yng Nghaerdydd, i gymryd y