Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y BARDD A'I GARTREF.

GWYNFRYN" oedd y fan a enwogwyd fel ei gartref ef—tŷ gwych a godwyd ganddo ef ei hun, ar ochr y ffordd fawr a ä o Rydaman (Amanford) i Landeilo Fawr, gyda chae eang o'i flaen—lle i fyfyrwyr ei ysgoldy enwog, oedd ar ei gwr uchaf, i chware, gyda lawnt hardd, flodeuog, rhwng ei ffin uchaf a'r trothwy, gardd ffrwythlawn, gadwrus, gyda choed afalau a ffrwythau eraill wrth ei dalcen dwyreiniol, ffordd gudd rhwng dwy berth wyros yn arwain o ymyl y drws i'r Ysgoldy, a bryncyn gwyrddlas, yn union y tu cefn iddo, gydag ychydig dderw preiffion arno, fel gwylwyr tawel y fan! Dyna'r Gwynfryn!

Buasai'r Bardd a'i deulu'n trigo mewn mannau eraill, ond yma y cawsai efe le i'w syniad am gartref. Yr oedd ganddo syniad aruchel am amodau naturiol cartref,—syniad o'i urddas gweddus, enillgar; ac yr oedd yn foddlon aberthu llawer i gyrraedd ei ddelfryd. Nid heb aberth y daeth y Gwynfryn yn eiddo iddo. Credai mewn cartref, carai gartref, oblegid cawsai olwg uchel ar ei natur a'i gyfle. Canodd i'r "Cartref" cyn foreued a'r flwyddyn 1874. Gan gyfarch ei awen, meddai:—

Dyro i ni fynd i'r hen fan:
Tua'r hen fan ein ganwyd,
Yr hen dŷ, y llety llwyd:
O'r mwynhad geir yma i ni,
A rhwydd iawn fydd barddoni:
Yn yr hen awyr annwyl
Cei di wynt gwerth codi hwyl.
(Llawysgrif.)


Ond pe na chanasai iddo, gwnaeth beth gwell, gwnaeth gartref yn gân, a rhoddodd ei gân ynddo. Yr oedd ei syniad am dŷ i wneud cartref, yn gall, ac i ddyn o amgylchiadau gweddol gysurus, yn ymarferol. Tu ol i bopeth, credai mewn gwella a phrydferthu'r tir y trigai arno. Un dechreunos haf, ac efe a minnau yn rhodio llwybrau glân yr ardd, ac yn cyd-