Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Threfor Evans, i gyngerdd yng nghapel y Gwynfryn. Bore drannoeth yr oeddynt ill dau yn yr odfa, a George, mab y Bardd, yno hefyd. Cyn gynted ag y daeth George i'r tŷ, a chyrraedd ystafell wely ei dad, meddai'r tad llesg yn ei wely, "Ble mae'r boys, odin nhw ddim yn dod i ganu i fi?" Own i ddim yn lico gofyn iddyn nhw," meddai'r mab. "Cerdd ar 'u hol nhw," meddai yntau, a gofyn iddyn' nhw am ddod i ganu i fi." Cyrhaeddodd y ddau ganwr gwych ymyl y gwely, ac wedi cyfarch yn dawel, meddai'r Bardd claf, Canwch fechgyn: canwch emyn."

Pan yn cerdded trwy'r cysgodion,
Pwyso ar dy air a wnaf,
Ac ar waethaf pob amheuon,
Buddugoliaeth gyflawn gaf.


Dechreuodd y ddau ganu, a chyda'i law deneu, wen, y tu allan i'r cwrlid, ceisiai ganu, a rhyw guro amser; yna peswch, a cheisio canu nodyn drachefn. Wrth weld yr ymdrech, torrodd Mr. Trefor Evans i wylo, ac wylai Mr. David Hughes. "Ie," meddai yntau,

Pwyso ar dy air a wnaf,
.. pwyso ar . . . dy air . . . a wnaf,


A chododd y gân ei hadenydd yn wlyb o ymyl gwely'r awenydd, y bore hwnnw! Buan yr aeth "Trefor" adref ar ol y Bardd i'r

Goleu geir ar bethau cudd,

eithr y mae'r canwr gwych arall yn "tawel aros," fel y ceisiodd y tri gyd-ganu y bore Saboth hwnnw yn ymyl gwely'r claf. Ond daeth i allu dywedyd yr ystori ei hunan yn "Y Diwygiwr," Chwefror, 1905, a gwell yw ei chael ar ei bin blin ef ei hun:—

YN Y CYSGODION, A'R DIWYGIAD.

Oddiar pan gefais y pleser o ysgrifennu i'r "Diwygiwr" o'r blaen, mae Deheudir Cymru wedi bod yn chware a dawnsio yn heulwen Y Diwygiad,' a minnau wedi bod yn griddfan a gorwedd yn Y Cysgodion.' Diolch i Dduw, ac i ddynion hefyd, yr wyf wedi cael nerth i godi ar fy nhraed unwaith eto,