Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aeth i Lanwrtyd pan ddaeth haf cynnes, eithr nid oedd ond yn cerdded i gwrdd â'r cysgodion. Yn ol eto, a'i nychtod gydag ef, a'i anadl yn gaethach fyth. Meddai ar ei ddychweliad, Ma'r hen ana'l 'ma 'n gaeth; ma' arna' i ofn ma' 'i golli 'e 'na i cyn diwedd.' Wrth ei weled ym mro'r Ffynnon, gofynasai rhyw hen gyfaill iddo, Holo, Mr. Williams, beth ych chi'n mofyn yma, mofyn dwr fel ni gyd, mae'n debyg." Nage, wir," meddai yntau, yn fyr ei anadl, ac yn peswch, "mofyn gwynt w' 'i."

Ond adref i'r Gwynfryn eto, ac erbyn hyn mae Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn yr ymyl, Awst, 1905; a dyna lythyr oddiwrthy Bardd claf at Eos Dâr, a bwysasai gymaint ar ei awen ef at yr Orsedd a'r Eisteddfod:—

GWYNFRYN,
Dydd Sadwrn, Awst, 1905.

Annwyl Eos Dâr,
Dyma fi'n y Gwynfryn unwaith eto, wedi gorfod rhedeg i'r tawelwch o Lanwrtyd. Yr oedd y crowd a'r gleber yn ormod i mi, y mae popeth yn fy lladd, felly ni allaf fentro yn agos atoch yn Aberpennar, ac y mae yn wir flin gennyf am hynny.

Y mae'r pwyllgor wedi anfon ataf, ac yn dra charedig, ond y mae'r perygl yn ormod i mi ddod yna. Y mae rhywbeth yn dweyd wrthyf y cewch le da, a llwyddiant mawr yna, felly y bo hi, a Duw'n gwlad a'n cenedl a'ch bendichio, meddaf fi.

Gwelaf fod yr Eos i ganu ddydd a nos yna. Dyma fi yn amgae dalen i geisio llanw'r bwlch. Cofion atat, ac at bob perchen anadl yna.

Yr eiddot byth,

WATCYN WYN.

Gyda'i lythyr daethai cân, "Dyffryn Cynnon," a cheir hi yn ei Waith.

Nesu wnai'r diwedd, ond rhaid oedd gwneuthur un ymdrech eto, ac i "annedd dawel, ar fin Llyn Llech Owen," yn ardal Penygroes, Llandebie, yr aeth. Bu yno am bythefnos yn cael ymgeledd Capten Thomas, y Garn.

Ond ryw hwyrnos yn niwedd Medi, dacw ef adref i'r Gwynfryn eto, ac adref ar ffrwst mewn cerbyd caeëdig, ac yn meddwl fod y daith yn gorffen! Ond yr oedd gwenau cyfeillion, a sŵn "yr hen ganu" i ddod ato eto, i dalu 'nol. Methu mynd i'w wely i orwedd,—ceisio esmwythdra yn y gadair freichiau, ac ar y glwth helaeth, ond yn ofer! Yr anadl byr