i grogi telynau eu bywyd ieuanc ar helyg glan afonydd Groeg a'r Eidal, ac yn murmur yn eu calonnau, "Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd mewn gwlad ddieithr?"
Melltith Pilat y byddwn i yn galw'r ieithoedd yma. Nid ydym yn credu fod eisiau cadw'r tair iaith, Hebraeg, Groeg, a Lladin, am byth ynglyn â Chroes yr Hwn nad oes wahaniaeth rhwng Groegwr, a Barbariad, a Scythiad. Cofiwn mai Pilat a'i hysgrifennodd, a rhyw ysbryd tebyg o hyd sydd yn dweyd, "Yr hyn a ysgrifennwyd a ysgrifennwyd."
Yr ydym yn ofni fod y pethau hyn yn cael gormod o le. Y mae yna bynciau eraill mwy diddorol i fechgyn heb fanteision. Y mae yna lyfrau eraill mwy buddiol i fechgyn meddylgar, a gwybodaeth arall lawer mwy defnyddiol i fywyd dyfodol y rhan luosocaf o lawer o weinidogion.