Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/232

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiseremoni—ac y mae dau ddosbarth o'r crach-feirniaid hyn i'w cael—sef y Cymro nad yw yn gwybod dim ond Cymraeg, a'r Cymro nad yw yn gwybod fawr ond Saesneg, neu Saesneg a thipyn o glassics. Y mae'r Cymro uniaith heb fod yn gwybod am neb ond beirdd ei wlad,—a'r un arall yn gwybod mwy am feirdd gwledydd eraill nag am feirdd ei wlad ei hun,—ac y mae un yn ei dra-dyrchafu fel rheol, a'r llall fel rheol yn ei dra-darostwng. Y mae un heb fod yn gwybod digon am farddoniaeth yn gyffredinol, a'r llall heb fod yn gwybod digon am farddoniaeth Cymru,—fel rhwng y ddau, mai chware teg go gul gaiff y Bardd Cymreig.

Bardd rhyfedd iawn oedd Mynyddog. Yn wir, efallai y dywed ambell un nad oedd yn fardd o gwbl. Os mai cynnyg at yr aruchel a'r dychmygol, a rhoi i ni greadigaethau crebwyll, a lluniau darfelydd—nid llawer o fardd oedd Mynyddog.

Ond os yw dweyd gwirioneddau plaen mewn ffordd naturiol, os yw taro ergydion agos mewn modd effeithiol, os yw gwneud i ryddiaith ein bywyd bob dydd ganu yn ein clyw nes cyrraedd ein calon, yn farddoniaeth—yr oedd Mynyddog yn fardd.

Yr oedd Mynyddog yn rhy ymarferol, neu ynte yn rhy gall, i fod yn fardd yng ngwir ystyr y gair—yn yr ystyr aruchel felly.

Yr oedd yna ddyn unwaith—dyn call hefyd—wedi ceisio gwneud pennill, ac wedi ei roi i gyfaill o fardd i'w feirniadu. 'Wel,' meddai hwnnw, 'does dim llawer o farddoniaeth yn hwn.' 'Wel,' meddai'r awdur mewn atebiad, 'mae e'n wir, os nad yw yn farddoniaeth.'

Gellir dweyd yr un peth am benillion Mynyddog, mae nhw'n wir os nad ydynt yn farddoniaeth.' Efallai fod hynny yn gryn dipyn o gymeradwyaeth iddynt hefyd, oblegid y mae ambell ddyn ymarferol i'w gael, yn meddwl cymaint am wirionedd ag am farddoniaeth.

Y mae Mynyddog a Cheiriog yn cael eu dal y naill ar gyfer y llall, ac yn cael eu rhoi gyda'i gilydd yn aml. Yr oedd yn y ddau rywbeth ddigon tebyg, yr oedd y ddau yn deall beth oedd yn mynd. Credwn fod Ceiriog yn fwy o fardd, ag edrych arno o safon gyffredin beirniadaeth barddoriaeth, ond yr oedd Mynyddog yn fwy o ddyn. Y mae Ceiriog ambell dro wedi codi yn uwch, ond lawer tro wedi disgyn yn îs. Baban oedd Ceiriog lawer tro, ond wag oedd Mynyddog o hyd.

Cychwynnodd Mynyddog, fel Beirdd Cymru y rhan fwyaf—fel cystadleuwr. Cawn ei ganeuon cyntaf i gyd, braidd â nôd y program arnynt—canu i rywbeth wêl y program yn dda gynnyg gwobr am dano, a rhaid i mi ddweyd mai testynau programaidd dros ben ydynt. Rhaid darllen program fel darllen Hebraeg—o chwith!

Credwn mai colled beirdd Cymru yw edrych ar y program, ac nid edrych o'u cylch; ond chware teg iddynt, os mai dyna'u colled, dyna'u hennill hefyd.

O dan y drefn bresennol, fe all bardd Cymraeg gweddol lwyddiannus wneud ei ffortiwn yn gynt o'r hanner wrth gystadlu nag wrth werthu ei ganeuon i gyhoeddwr. Yn wir, nid oes gennym ni yn ein gwlad neb yn prynu ac yn talu tipyn amdano, ond Mr. Hughes, Gwrecsam. Y mae ein holl gylchgronnau yn cael eu cadw i fynd yn ol yr hen drefn,—rhad râs.

Dyna'r rheswm fod beirdd Cymru heb un genhadaeth neilltuol ganddynt,