IV.
"SUL Y BLODAU."
"Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd, llawenychwn a gorfoleddwn ynddo." (PSALM CXviii. 24).
"A hwy a gymerasant (dorasant) gangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg ef, ac a lefasant, Hosanna, bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd." (IOAN xii. 13.)
Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd." Pa ddydd yw hwn ynte? Ai nid yr Arglwydd a wnaeth bob dydd? Oes rhyw un arall erioed wedi gallu gwneud dydd? Y mae'r pethau ym ni yn wneud yn debycach i'r nos nag i'r dydd. Yr ydym ni yn fwy tueddol i greu tywyllwch na gwawrio goleuni, y cyfnodau, a'r tymhorau, a'r blynyddau blinion, a'r nosweithiau duon yw'n creadigaethau ni; Duw biau'r wawr, a'r goleuni, a'r dydd! Duw sy'n gwneud y dyddiau i gyd, bob bore y deuant o'r newydd o'i law Ef, ac nid oes dau ddydd yr un fath wedi bod erioed, newydd o hyd yw'r dyddiau mwyaf cyffredin. Ond gallwn ofyn, ai nid yw Duw yn creu dyddiau neilltuol? Ai nid oes swn rhyw ddydd neilltuol ynglyn â'r dydd hwn?" Hwn yw y dydd a wnaeth yr Arglwydd." Credwn fod yma ryw son am ryw ddydd neilltuol, i gofnodi rhyw amgylchiad mawr, i alw sylw at rywbeth arbennig, cyn fod y Salmydd yn dweyd: "Hwn yw y dydd a wnaeth yr Arglwydd."
Ydyw, mae'r Salm yn Salm Genedlaethol i gyd, yn cael ei chanu ar achlysur neilltuol, pan fuasai llwyddiant mawr, neu ynte waredigaeth fawr, neu symudiad pwysig yn digwydd; coroni brenin, neu ennill brwydr, neu adeiladu teml, neu gwrdd diolchgarwch. Dyma'r Salm a genid gan genedl Israel; dyma "Hen wlad fy nhadau" yr hen genedl honno. Darllenwch chwi yn llyfr Ezra ynghylch ailadeiladu'r deml, a'r paratoi, a'r llawenydd, a'r canu moliannus oedd yno; canu'r Salm genedlaethol yr oeddynt, a'r pennill blaenaf a'r pennill olaf o honi yr un fath, "Clodforaf yr Arglwydd, canys da yw, oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd."
Un o benillion y Salm Genedlaethol oedd yn cael ei chanu ar y gwyliau mawr, ac ar adegau neilltuol, yw adnod ein testyn; a chan ein bod ni heddyw wedi cwrdd ar ddydd neilltuol, sef dydd Sul, ac ar Sul neilltuol, sef Sul y Blodau, ni geisiwn wneud defnydd o'r geiriau: "Hwn yw y dydd a wnaeth yr Arglwydd, llawenychwn a gorfoleddwn ynddo." "A hwy a gymerasant gangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg Ef, ac a lefasant Hosanna."
Dyfyniadau o hen Salm y genedl yw'r geiriau oeddynt yn ganu, digedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd," a gwneud defnydd o hen arferiad y g nedl, oedd cario'r palmwydd yn eu dwylaw o flaen Iesu Grist yn ei ymdaith olaf i'r brifddinas, a chadw'n fyw y traddodiad o barchu'r Gwaredwr mae "Sul y Blodau " yng Nghymru, a'r "Palm Sunday" yn