y Groglith i gofio'r bobl yn gwaeddi "Croeshoelier Ef!"; y Pasg i gofio'r gwragedd yn mynd at y bedd, yr angel yn dweyd "Nid yw Efe yma," a'r disgyblion yn cyfarch ei gilydd mewn gorfoledd, "Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosodd i Simon!"; y Sulgwyn i gofio ei fynediad yn ol i'r nef, wedi bendithio ei ddisgyblion, a bendithio'n daear ni am byth, à disgyniad yr Ysbryd!
Wel, dyna rai o roddion Duw,
Ar hyd y daith i ddynol ryw,
Fel gorffwys fannau mawr eu gwerth,
I'n helpu 'mlaen o nerth i nerth.
Y dydd o'r nef a'i wyneb llon,
Tymhorau amryw'r flwyddyn gron,
Y Saboth, brenin dyddiau'r llawr,
A gŵyliau'r digwyddiadau mawr:
Anrhegion dwyfol Duw i gyd,
Arwyddion ffordd wrth fynd drwy'r byd,—
O oes i oes, o hyd o hyd.
2. BETH A DDYLEM NI WNEUD YN Y MWYNHAD O'R PETHAU HYN?
"Gorfoleddu a llawenychu ynddynt." "A hwy a gymerasant gangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg Ef, ac a lefasant Hosanna, Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd."
Dyna ddywedir yn yr Hen Destament, "Gorfoleddwn a llawenychwn." A dyna gofnodir yn y Testament Newydd, "A hwy a gymerasant gangau o'r palmwydd ac a aethant allan i'w gyfarfod Ef." "Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd " sydd yn Salm yr Hen Destament, ac adsain yr un geiriau sydd i'w glywed ym mhennod y Testament Newydd.
Canodd y Salmydd, "Clodforwch yr Arglwydd, canys da yw, oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd." Y mae Ezra, wrth sylfaenu Tŷ yr Arglwydd, yn gwneud defnydd o honi: "A hwy a gydganasant wrth foliannu yr Arglwydd, mai da oedd, ac fod ei drugaredd yn dragywydd." "A'r holl bobl a floeddiasant â bloedd fawr" wrth weled sylfaenu'r deml yn yr Hen Destament. A'r torfeydd a lefasant "Hosanna," wrth weled yr Hwn oedd yn fwy na'r deml, yn y Testament Newydd; yr hyn sydd yn dangos fod yr hen Salm wedi cydio yng nghalon y genedl, ac yn glynu yn y cof o oes i oes, ac o genhedlaeth i genhedlaeth, ac yn gyfrwng ysbrydiaeth newydd o hyd. Y mae ein cysylltiad crefyddol â'r gorffennol yn un pwysig, a'n perthynas yn un agos iawn o hyd. Dyna'r cyfandir mawr yn yr hwn y mae ffynhonnau iachawdwriaeth wedi tarddu, a thros yr hwn y mae'r afonydd o ddyfroedd bywiol wedi llifo i'r ardal lle'r ydym ni'n byw; a byddai yn sych iawn hebddynt. Dyma'r hen ardd brydferth, yn yr hon y mae brieill, a rhos, a lili ein harddwch crefyddol wedi tyfu, a buasem ni heb un "Sul y Blodau " oni buasai hon. Dyma'r môr mawi cerddorol diwaelod a di-lan, a buasem ni heb un don o "Hosanna i Fab Dafydd" oni buasai hwn. Mae'r gorffennol yn gyfoethog annrhaethol; gofalwn ni beidio torri'r cysylltiad âg ef, rhag i ni fyned yn Ilwm yn y dyfodol. Cofiwch hyn, 'dwyf fi ddim am i neb fyw yn y gorffennol, ond rhaid i ni bob un fyw arno, neu fel plant drwg, golli'r etifeddiaeth "sydd