Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/259

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ini'n dod wrth Destament ein Tad." Rhaid i ganwyr yr oes hon beidio diystyru'r hen gerddoriaeth, os am berffeithio moliant Seion. Rhaid i'r pregethwr heddyw astudio'r pethau a fu yn gystal a'r pethau sydd, os am gael gafael ar storfa gwirioneddau newydd a hen, i ddysgu ei gynulleidfa i gwrdd â'r hyn a fydd. Yr wyf fi yn gredwr mawr mewn goleuni newydd, ond dewch i ni gael cofio o hyd, mai yr un yw ffynhonnell goleuni, a chadw'n llygaid yn agored i'w weled yn myned fwy—fwy hyd hanner dydd. Y mae yna rai pethau yn y testyn yn sicr o fod yn werth ein sylw.

(1). Gorfoledd. Hynny yw, cynulleidfa, neu dorf o ddynion yn rhoi teimlad eu calon allan mewn moliant cynnes, am ryw ddaioni y maent wedi deimlo. Braidd nas gallwn ni ddweyd fod hon wedi myned yn hen arferiad, a bod rhai crefyddwyr ffurfiol ac oeraidd yn barnu yn eu calonnau ei bod yn bryd rhoi heibio brwdfrydedd. Yr ydym yn teimlo 1hyw ffurfioldeb balch o'n cylch ambell waith mewn ambell gwmni, fel ia; a bod eisiau rhyw dân saith poethach nag arfer i'w doddi. Yr ydym wedi cwrdd â rhai dynion ieuainc yn barnu popeth cyn dysgu edmygu dim; gweld y bai cyn gweld y da, yn gorfanylu, ond byth yn gorfoleddu. Arwydd ddigalon ac annaturiol iawn yw honna i mi, ac yr wyf yn edrych waeth waeth arni po hynaf wyf yn mynd; y mae hi yn groes i natur, y mae afon natur dda fel yn rhedeg o chwith pan y mae pethau fel hyn. Gadewch i natur oreu dyn neu dorf, neu gynulleidfa, neu genedl, gael ei ffordd; mae'n rhwym o dorri allan mewn gorfoledd ambell dro, ac ond odid nad y cyfrwng fydd hen emyn neu hen dôn, neu hen salm genedlaethol sydd wedi gwasanaethu cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth. Mae gorfoledd pur yn iechyd pur! Peidiwn a'i ladd er dim!"

(2.) ini'n dod wrth Destament ein Tad." Rhaid i ganwyr yr oes hon beidio diystyru'r hen gerddoriaeth, os am berffeithio moliant Seion. Rhaid i'r pregethwr heddyw astudio'r pethau a fu yn gystal a'r pethau sydd, os am gael gafael ar storfa gwirioneddau newydd a hen, i ddysgu ei gynulleidfa i gwrdd â'r hyn a fydd. Yr wyf fi yn gredwr mawr mewn goleuni newydd, ond dewch i ni gael cofio o hyd, mai yr un yw ffynhonnell goleuni, a chadw'n llygaid yn agored i'w weled yn myned fwy—fwy hyd hanner dydd. Y mae yna rai pethau yn y testyn yn sicr o fod yn werth ein sylw.

(1). Gorfoledd. Hynny yw, cynulleidfa, neu dorf o ddynion yn rhoi teimlad eu calon allan mewn moliant cynnes, am ryw ddaioni y maent wedi deimlo. Braidd nas gallwn ni ddweyd fod hon wedi myned yn hen arferiad, a bod rhai crefyddwyr ffurfiol ac oeraidd yn barnu yn eu calonnau ei bod yn bryd rhoi heibio brwdfrydedd. Yr ydym yn teimlo 1hyw ffurfioldeb balch o'n cylch ambell waith mewn ambell gwmni, fel ia; a bod eisiau rhyw dân saith poethach nag arfer i'w doddi. Yr ydym wedi cwrdd â rhai dynion ieuainc yn barnu popeth cyn dysgu edmygu dim; gweld y bai cyn gweld y da, yn gorfanylu, ond byth yn gorfoleddu. Arwydd ddigalon ac annaturiol iawn yw honna i mi, ac yr wyf yn edrych waeth waeth arni po hynaf wyf yn mynd; y mae hi yn groes i natur, y mae afon natur dda fel yn rhedeg o chwith pan y mae pethau fel hyn. Gadewch i natur oreu dyn neu dorf, neu gynulleidfa, neu genedl, gael ei ffordd; mae'n rhwym o dorri allan mewn gorfoledd ambell dro, ac ond odid nad y cyfrwng fydd hen emyn neu hen dôn, neu hen salm genedlaethol sydd wedi gwasanaethu cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth. Mae gorfoledd pur yn iechyd pur! Peidiwn a'i ladd er dim!"

(2.) Llawenydd. Efallai fod yna duedd mewn rhai dynion i alltudio llawenydd o'u bywyd crefyddol. Pa bryd y daeth y teimlad llethol, prudd, ofnus, aflawen yma i mewn i'n cyfarfodydd, a'n cyfeillachau, a'n pregethu, a'n canu ni? Pwy bynnag ddaeth a'r pethau hyn yma, y mae hi yn llawn bryd cael eu gwared, er mwyn rhoi mwy o le i orfoledd a llawenydd. Cofiwn gadw'r gwahaniaeth rhwng llawenydd a dwli, a rhwng gorfoledd a rhialtwch. Y mae'r dyn crefyddol cryf, synhwyrol, iach, yn canu:—

Darfu ofn,
Daeth llawenydd yn ei le.


(3). Arddangosiad. Y peth nesaf welwn ni yma yw arddangosiad— demonstration gwirfoddol a chalonnog. "A hwy a gymerasant gangau o'r palmwydd, ac a aethant allan i gyfarfod âg Ef, gan lefain Hosanna, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd.' Nid seremoni unffurfiol ac anyswyth, yn dilyn o gyfarfod i gyfarfod, ac o Sul i Sul, ac o ŵyl i ŵyl, yw arddangosiad o deimlad. Nid defod wâg yw torri ar ffurf oer ambell waith. Byddai'n fendith i'n gwasanaeth dorri ar ei ffurf enwadol weithiau. Byddai yn tendith i'n pregethu i doiri pennau'r bregeth mewn ambell gwrdd, a thorii ei chynffon hefyd o ran hynny. Byddai'n fendith i'n canu i chwilio am fwy o emynau a salmau, ac odlau ysbrydol, ar gyfer ein Suliau neilltuol, a'n gwyliau arbennig. Mae'r Eglwys Sefydledig yn ein curo yn hyn, yn rhoi mwy o waith i'r gynulleidfa yn y gwasanaeth, a galw mwy o sylw at y gwyliau arbennig yn ei chyfarfod crefyddol. Y mae Duw wedi bwriadu'r cyfan i fod