eglur yno," nid oedd dim ond buddugoliaeth yn ei aros, ond os na, tywyll oedd hi.'
Chwareuodd y "Breuddwyd " ran bwysig ynglyn â'i ymgais gyntaf am y Gadair Genedlaethol. Yn Eisteddfod Caerdydd y bu yr ymdrech honno, a'r "Llong" yn destyn; a rhaid iddo ef ei hun gael adrodd yr ystori:
"Yr oeddwn yn edrych allan bob nos, fel yr oedd yr amser yn nesu, am arwyddion ffafriol. Ryw noson oddeutu pythefnos cyn yr Eisteddfod, . . .
. . daeth i mi weledigaeth. Gwelais ... mewn breuddwyd, long ardderchog yn barod, a minnau fel capten ar ei bwrdd. Ond nid oedd dwfr yn agos yn un man, mewn gwirionedd yr oedd hi gryn bellter o'r môr. Gwelwn y llong—a llong ardderchog oedd hi hefyd—un o'r llongau mwyaf a welais i erioed yng nghwsg neu yn effro, oddigerth y Great Eastern. Yr oedd ei hwylbrenni yn cyrraedd y wybren, a'i hwyliau fel cymylau yn yr awyr-llong heb ei bath oedd hi, ond dim môr yn agos. Gwelwn yn fy mreuddwyd fy mod wedi ei hadeiladu
Heb fod ar y tywod,
Lle mae'r môr yn arfer dyfod;
Ond yn y wlad wrth droed y mynydd,
Gerllaw gwaith glô a hen domennydd!
"Yr oedd y llong. . . ar lan ar ochr y Mynydd Du yn rhywle, a dim ond rhyw domenni gwaith glô o gylch, 'a'r môr nid oedd mwyach.' Gwelais yn union. y 'buasai yn well fy mod wedi adeiladu truck yn y fan honno, na llong.
Pan ddihunais gwelais yn union fod y llong yn fy meddiant, ond beth am y tide?... Aethum i Gaerdydd, rhwng bodd ac anfodd, am fod fy ngwraig yn dweyd, Dere di, croes yw'r breuddwyd.' Gwyddwn innau o'r goreu mai croes oedd i fod yng Nghaerdydd —gwyddwn nad oedd tide i mi yno, er bod llong gennyf. Pan ddaeth adeg y feirniadaeth, cododd y beirniaid groes-wynt ystormus, a suddwyd y llong. Fy llong i oedd y goreu, ond nid oedd y tide yn ddigon uchel, neu ynte yr oedd y gwynt yn rhy gryf yn ei herbyn, er ei bod yn oreu, ac yn oreu o ddigon, er hyn i gyd nid oedd llong i mi yn y porthladd hwnnw." Argoel wael iddo ef oedd colli ei bibell a'i gŵd myglys yn y trên ar y ffordd i'r Eisteddfod. Yr oedd codi ager yn anodd ar ol hyn. Gŵyr pawb a ŵyr hanes yr Eisteddfod na ddaeth y gadair