Saesneg hen frawd i "Danchwa Abercarn" ("In Abercarn was explosion") yn ei feddwl, meddai ei awen a ymgellweiriai, yn Saesneg:—
Yn Ffair y Byd was execution, Quite a modern revolution; Take the poet by the collar, And rob him of one hundred dollar: Behead him first, and crown him after, Amid great shouting and great laughter.
Ond i weld brig y fflam, rhaid darllen ei gân, "Y Goron " (Llawysgrif), a chofio mai Coron Aur a addawsid, a Choron, nid cylch, o aur nac o arian.
Y GORON.
Mi gefais goron arian wen,
O Colorado bell:
Mae'n ffitio'n weddol am fy mhen,
Hi allsai ffitio'n well:
Rhyw wasgu tipyn bach mae hi
Pan ar fy mhen—o hyd:
Ond mae pennau coronog yn dweyd i mi
Mai gwasgu mae nhw i gyd!
Ai arian Amerig oedd ry fach,
Ai pen y bardd rhy fawr?
Fe fuasai'r coryn yn fwy ach
Tase ragor o faint yn y c'awr!
Am nad cedd digon o arian i doi
Y bardd rhag bod yn grop,
Fe orfu i fechgyn y Gwynfryn roi
Velvet ar y top!
Mae velvet yn sofftach nag arian,
A rhatach beth o'r ddau:
Ac am ei fod yn sofftach
Mae'n debycach i'r pen yn ddiau:
Aeth coron aur yn y dechreu
Yn goron arian wen!
Yn wir, peth od na fuasai
Dim ond velvet ar fy mhen!
Tipyn o waith yw ennill
Coron aur o uchel fri:
Rhaid canu llawer pennill
Am dani, credwch chwi fi;