Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cywilydd. Nid oes enw un beirniad mewn perygl, na thynged un cystadleuydd yn debyg o gael cam, os bydd i ddyn geisio breuddwydio pa fodd y bydd hi."

Tlws oedd ei freuddwyd cystadlu cyntaf. Anfonasai dri chyfansoddiad bychan i Eisteddfod leol, a dyma freuddwyd iddo:—

Gwelwn fy hun yn cario dryll ar hyd y caeau yn ymyl tŷ fy nhad, i chwilio am adar i'w saethu. Dyddiau hyfryd oedd y dyddiau hynny, nid dyddiau hyfryd ar yr adar, ond dyddiau hyfryd ar y bechgyn oedd yn ymhyfrydu cario dryll i saethu adar—dim angen trwydded i gario dryll. Bron na raid i ddyn gael trwydded i gario dryll yn ei gwsg y dyddiau hyn—ond yr oedd hi yn wahanol y pryd hwnnw. Yn fy mreuddwyd, gwelwn dri aderyn ar bren, heb fod ymhell. Taniais atynt, a dihunodd yr ergyd fi, ond nid cyn i mi gwympo dau o'r tri, a gweled y llall yn dianc i ffwrdd! Daeth adeg yr Eisteddfod, daeth ergyd y feirniadaeth, enillais ddwy wobr, a chollais y drydedd!. . . . Dichon y buasai ambell un yn bwrw'r bai ar y beirniad, ond gwell gennyf fi fwrw'r bai ar y dryll."

Cellweiriai fod ynddo awydd ar ol hyn ysgrifennu llyfr ar freuddwydio, a'i alw yn "Llyfr y Tri Aderyn." Buasai gennym ddau " Lyfr y Tri Aderyn " felly—y naill gan" Morgan Llwyd," a'r llall gan Watcyn Wyn. Tarawai efe dant dyfnach na hyn ym myd breuddwydio, a bu'r mater yn ddigon pwysig yn ei olwg i ysgrifennu cwrs o ysgrifau arno i Gyfaill yr Aelwyd," yn 1892. Ar ol ymdroi'n hamddenol a difyrrus ddigon yn ei ysgrif gyntaf, a dweyd "fod y breuddwydion mwyaf byw, y gweledigaethau mwyaf amlwg, a'r ymweliadau mwyaf diddorol wedi dod heb fod ynglyn â dim y byddom wedi bod yn meddwl am dano yn ystod y dydd na'r wythnos mewn modd yn y byd," meddai mor ysgafn galon, "Yr ydym wedi rhagymadroddi yn ddigon anniben, ond rhaid cofio mai rhag— ymadrodd breuddwyd yw."

Nid oes ganddo air mwyn i'r rhai a ddywed am freuddwydion, "Pw! pw! ffolineb; nid oes dim dal arnynt." Dynion yw'r rhai hyn," medd efe, "a phrysurdeb y dydd yn peri iddynt lwyr anghofio eu nos feddyliau, er efallai y bydd llawer nos-feddwl fel ymweliad angel, er yn ddiarwybod i'r dyn bydol brysur." Ac wedi rhoi cipolwg i'r dynion prysur hyn ar eu colled, meddai, "Credwn ei bod yn llawn bryd rhyfela