Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynnydd a'r datblygiad sydd yma. Tua'r flwyddyn 1856 y caed y tâl cyntaf oddiwrth y Llywodraeth at addysg yn Brynaman, ac yn y cymydogaethau hyn. Cyn hynny, personau lled anghyfarwydd, os nad anghymwys, oedd yn ceisio dysgu plant y lle. Hen gigydd oedd y cyntaf y bum yn yr ysgol gydag ef. Hen filwr oedd yr ail, a hen bregethwr oedd y trydydd, ac yr oeddynt yn cynrychioli y tair galwedigaeth, a phob un yn gadael ei argraff ei hun ar y plant."

"Gwelsoch lawer math o ddisgybl, a llawer math o feddwl, mae'n debyg, yn ystod yr un-flynedd-ar-hugain diweddaf?"

Do. Gwelais fechgyn o'r deuddeg oed hyd y deg ar hugain, bechgyn, braidd o bob galwedigaeth, bechgyn wedi cael manteision boreuol gwahanol, a bechgyn o alluoedd gwahanol, ond y trueni oedd, fod yr holl rai hyn braidd, yn gorfod ceisio dysgu yr un pethau, hynny yw, y bechgyn yn eu maint oedd yn mynd i bregethu, ac yn ymdrechu am goleg, yn gorfod cerdded yr un ffordd, a gwneud yr un gwaith, ond heb fod wedi eu torri allan ar gyfer yr un gwaith."

"Yng ngoleuni eich profiad chwi, pa un yw'r cartref, a'r awyrgylch, a'r amgylchoedd goreu i godi pregethwyr?"

"Y mae yn anodd dweyd. Yr wyf wedi gweled pregethwyr rhagorol yn codi o bob math o gartrefi, a phob math o gymydogaethau. Os bydd y bachgen wedi ei eni i bregethu, daw i'r golwg o bob man, ac o dan bob amgylchiadau. Y mae gan gartref a chymydogaeth lawer i wneud â rhoi start i ddyn, er hynny—cartref crefyddol, rhieni deallus, teulu darllengar, cymydogaeth fyw, &c. Y mae yn fantais fawr i bregethwr fod wedi cael y fraint o droi ym mysg gweithwyr, er mwyn adnabod dynion, a chael ei adnabod gan ddynion, cyn dechreu ar ei waith fel myfyriwr, ac fel pregethwr."

"Rhaid eich bod wedi paratoi torf i wahanol gylchoedd bywyd, yn gystal ag i bulpudau, heb fyned i goleg?"

Nid wyf yn gwybod a wyf wedi paratoi neb yn iawn, ond y mae amryw wedi myned i wahanol gylchoedd bywyd, ac i'r weinidogaeth o'r ysgol, ac y maent wedi cael ychydig o help efallai, ac y mae rhai yn gwneud yn rhagorol. Gall ysgol neu goleg wneud cryn dipyn i baratoi dyn i basio arholiad, neu i bregethu yr efengyl, gallant roi tipyn o gyfarwyddyd, a rhoi tipyn o'u stamp arno, ond yr wyf fi yn credu mwy mewn dyn