Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nag mewn sefydliad y defnydd sydd yn y dyn sydd yn rhoi gwerth arno, bydded y stamp y peth y bo."

Pa fath addysg sydd eisiau ar bregethwr heddyw?" 'Addysg i'w gynorthwyo i ddeall dynion, a deall y Beibl, a deall ei oes. Nid pob pregethwr all fforddio cael addysg i ddeall y Beibl yn yr ieithoedd yr ysgrifennwyd ef, ac nid gwaith y pregethwr yw hynny efallai, y mae eraill all wneud hyn yn well; ond dylai holl addysg y pregethwr ei helpu i ddeall dynion, a deall llyfrau, darllen dyn a darllen llyfr. Credaf y dylai, pe modd, fod dau ddrws i'r coleg, a dau ddosbarth yn y coleg, a dynion priodol i ofalu am y ddau ddrws a'r ddau ddosbarth."

Beth yw eich syniad am ragolygon y weinidogaeth yng Nghymru?"

Rhagolygon ardderchog. Y mae y tô sydd yn codi yn y Gwynfryn heddyw y pregethwyr goreu o ddynion ieuainc a glywais erioed. Faint sydd gan y Gwynfryn i wneud â hyn—barnwch chwi."

Beth, meddwch chwi, fydd dylanwad addysg heddyw ar Gymru'r dyfodol?"

"Nid wyf yn sicr. Y mae ein syniad heddyw am addysg, a'r ffordd o gyflwyno addysg, yn gwahaniaethu. Y mae llawer heddyw yn credu yn yr hen addysg, a'r hen ddull, yn hollol geidwadol felly, fel pe wedi tyngu llŵ o ffyddlondeb i bob hen drefn, a phob hen iaith, ac heb geisio paratoi ar gyfer un cyfnewidiad. Credwn, er hynny, fod pethau yn cyfnewid yn y wlad, ac fod mwy o geisio gwneud dynion deallus heddyw, nag sydd o geisio gwneud dynion dysgedig. Y mae mwy o weithio ar y deall heddyw nag a fu. Y mae rhai yn beiddio apelio at y plentyn heddyw, yn yr iaith mae yn ddeall, a rhai yn siarad Cymraeg yn y dosbarth â'r bachgen o Gymro uniaith fydd yn digwydd bod yno, a bydd Cymro a Chymru'r dyfodol yn gryfach, ac yn well o hyn."

Dyna olwg fer ar un o'r ysgolion disgleiriaf o'i math a welodd Cymru erioed. "Pwnc mawr" yr athro, meddai Gwili," oedd gwneud dysgu yn beth diddorol, ac nid yn fater o orfod." Pa wahaniaeth, felly, "nad oedd yn debyg i'r athro arferol, ac nad oedd ganddo barch yn y byd i gynllun?" Gwnelai'r gwaith, ac meddai yr un gŵr, wedi gwybod am dano mor dda, "Yr oedd yn rhifyddwr da, a byth ni cheid problem yn Euclid a fyddai tu hwnt iddo. Dichon y tynnid y cudyn barf fwy nag