Nghymru ag mewn dim. Yn ei gariad at symledd di-lol, paratoasai Ceiriog ei feddargraff fel hyn:—
Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd,
Carodd fyw'n naturiol;
Carodd gerdd yn angherddol;
Dyma ei lwch, a dim lol.
Eithaf iawn," meddai'r Bardd Gwyn, pan welodd ef; "Cofia di, Ann," (wrth ei briod), "na fydd dim hen ddwli wrth y nghladdu i, dim bedd bricks i fi chwaith."" Rhaid i ti wneud englyn yn barod, fel Ceiriog, 'te," meddai hithau; a dyna'r fflach:—
Tra gallodd, carodd roi kicks—ar ei hynt,
I rai o'r hen relicks.
Ffarweliodd heb ddim frolicks,
Dyma y brawd, a dim bricks.
"Eithaf da," meddai Ann, "ond mi newidia i dipyn ar y llinell olaf, ac fel hyn y bydd:
Dyma y brawd yn ei domb bricks."
A dyna law y Bardd at ei gudyn gên, a'i chwerthin mân, heintus, yn llenwi'r ystafell. Yr oedd ei arabedd yn heintus, o'r hyn lleiaf, 'r oedd hi—ei briod—yn meddu'r ddawn yn helaeth, pa un ai oherwydd ei bod yn enedigaeth-fraint, ni wyddom. Ond mynych y cariai hi'r chware.
Daethai'r ddau ar dro i'n cartref ni, un haf, wedi bod ar wyliau yng Ngwyr. "Fachgen," meddai ef, "dyna le brâs; dyna fywoliaeth sydd yno. Yr oedd hwyad gennym ni i ginio ddoe; wel, 'r oedd hi 'nofio yn ei gravy ei hunan ar y ford o'n blaen on'd oedd hi, Ann?" "Oedd," meddai hithau'n ddireidus, ac yn dweyd' Wat, Wat' wrth fynd."
Yr oedd dan wawdd un tro mewn "parti o wŷr priod," yn treulio eu dydd ar fryn y "Grongar," yn Nyffryn Tywi. "Gwŷr priod" yn unig a wahoddid, a gwahoddwyd y Bardd. Wedi'r wledd ar yr hen fryn, meddai un o'r gwŷr priod: "Mr. Williams, chi ddylech neud pennill i ni 'nawr." "Ie'n te fe," meddai yntau, gyda'i wên chwareus. "Yn fuan," meddai'r un gŵr, tra'r eisteddai twr